Lliw

Nodwedd weledol sy'n deillio o'r goleuni gweladwy y mae gwrthrychau'n ei daflu, ei drosglwyddo neu ei gynhyrchu yw lliw.[1]

Lliw
Enghraifft o'r canlynolnodwedd ffisegol, meta-ddosbarth o'r radd flaenaf Edit this on Wikidata
Mathgolau gwrthrych wedi'i amsugno neu ei adlewyrchu, ffenomen optegol, nodwedd Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebdim lliw Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Lliwgylch

Prif liwiau

Ceir lliwiau cynradd (hefyd cysefin), lliwiau eilradd a lliwiau trydyddol.

  • Cynradd: coch, melyn, glas
  • Eilradd: oren, gwyrdd, porffor
  • Trydyddol: fermiliwn, ambr, melynwyrdd (gwyrddfelyn), gwyrddlas (glaswyrdd), fioled, majenta
  • Eraill: du, gwyn

Geiriau lliwiau yn Gymraeg

Yn y Gymraeg, gall lliw fod yn wrywaidd neu'n fenywaidd, yn ddibynnol ar yr enw e.e. buwch wen, tarw gwyn; car glas, carreg las. Ceir hefyd ffurf luosog, a ddaw ar ôl enw lluosog - er bod yr arferiad hwn yn prysur ddiflannu (2015) e.e. dant gwyn, dannedd gwynion; pesel felen, pensiliau melynion; dyn du, dynion duon.

LliwFfurf fenywaiddFfurf luosogGeiriau traddodiadol
Brown--Gwinau
Coch-Cochion-
Du-Duon-
Glas-Gleision-
GwynGwenGwynion-
GwyrddGwerddGwyrddion-
MelynMelenMelynion-
Llwyd-Llwydion-
Oren--Melyngoch
Porffor / Piws--Glasgoch

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Chwiliwch am lliw
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am liw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.