Llowes

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Y Clas-ar-Wy, Powys, Cymru, yw Llowes.[1][2] Mae'n gorwedd yn ardal Maesyfed, tua 3 milltir (5 km) i'r de-ddwyrain o bentref Y Clas-ar-Wy, ger y ffin â Lloegr. Roedd 110 o bobl yn byw ynddo yn 2005.

Llowes
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0668°N 3.1797°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO191416 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Cefn gwlad Powys ger Llowes

Eglwys Meilig Sant a Chroes Meilig

Mae eglwys y plwyf wedi'i chysegru i Meilig Sant, y dywedir iddo sefydlu mynachlog yn y 6ed ganrif yng Nghroes Feilig ger y pentref, lle y cafodd ei gladdu. Dichon fod Meilig yn un o feibion Caw ac yn frawd i Gildas. Cyfeirir ato yn Culhwch ac Olwen fel un o'r marchogion yn llys Brenin Arthur.[5]

Ailadeiladwyd yr eglwys yn llwyr ym 1853, er y gall fod gwaelod y tŵr yn ganoloesol a chredir bod y bedyddfaen â band haearn amdano yn dyddio o'r 12fed ganrif.

Symudwyd Croes Meilig, y dywed traddodiad iddi sefyll gynt ar ei safle eponymaidd Croes Feilig, i'r eglwys ei hun yn 1956 i atal erydiad pellach. Oddeutu 1699 safai yn y fynwent pan y'i gwelwyd hi gan Edward Lhuyd. Credir bod y groes, sydd wedi'i cherfio ar faen hir, yn dyddio i oddeutu'r 11eg ganrif. Roedd chwedl leol yn cyfeirio at y groes fel 'Moll Walbec's Stone', gan honni iddi gael ei thaflu yno gan 'Moll Walbec' neu Maud de St. Valery, gwraig hynod gadarn ac anorchfygol William de Braose (1144/1153–1211), arglwydd y Gelli Gandryll. Wrth gario cerrig yn ei ffedog o'r chwarel yn Y Clas ar Wy i ailadeiladu'r castell, syrthiodd un i'w hesgid. Tynnodd Maud hi allan a'i thaflu'n ddig dros Afon Gwy i lanio ym mynwent eglwys Llowes.[6]

Croes Meilig

Yr arysgrif Gymraeg i William Bevan

Ym mynwent yr eglwys mae'r hyn a alwyd gan Ffransis Payne yn 'un o bethau prinnaf sir Faesyfed sef carreg fedd ac arni arysgrif yn Gymraeg'. Dyma'r geiriau sydd ar y garreg hon: 'William Bevan or Vedowlwyd Dan y garreg sydd Imma yn gorphywys ay oydran oydd 84 mhylnedd ac ymadevis ar y byd hwn y 17 Dydd o Ebrill yn y flwyddyn 1684 Miserere Mei Deus'.[7]

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.