Pen-y-bont, Powys

pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru
(Ailgyfeiriad o Penybont, Powys)

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Pen-y-bont,[1] weithiau Penybont. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Llandrindod, lle mae'r briffordd A44 yn croesi Afon Ithon. Ceir olion castell yma, Castell Cefnllys, a adeiladwyd yn ôl traddodiad gan Elystan Glodrydd. Yn y 12g daeth y castell i feddiant teulu Mortimer, a'i ail-adeiladodd a cherrig. Datblygodd bwrdeistref o amgylch y castell, a cheir cywydd gan Lewys Glyn Cothi yn ei chanmol. Yn y 16g roedd Cefn-llys yn un o'r pum bwrdeistref oedd yn ffurfio etholaeth bwrdeistrefi Sir Faesyfed, ond yn ddiweddarach dirywiodd,

Pen-y-bont
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth428 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,697.63 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.26669°N 3.3°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000338 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map
Peidiwch â chymysgu y gymuned hon â Pen-y-bont-fawr, cymuned yn ardal Maldwyn, i'r gogledd. Am leoedd eraill ag enwau tebyg, gweler Pen-y-bont (gwahaniaethu).

Heblaw pentref Penybont, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Llandeglan. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 403.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[3]


Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Penybont, Powys (pob oed) (428)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Penybont, Powys) (53)
  
12.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Penybont, Powys) (205)
  
47.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Penybont, Powys) (64)
  
36.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%


Gweler hefyd

Cyfeiriadau