Llyndy

Efallai eich bod yn chwilio am llindy.

Annedd a godir dros ddŵr yw llyndy, neu annedd ar byst, sy'n sefyll ar byst yn y dŵr sy'n gosod sylfeini i'r adeiladwaith. Adeiladir llyndai yn bennaf i amddiffyn yn erbyn llifogydd,[1] a hefyd i gadw fermin allan.[2] Gelwir clwstwr llyndai yn "llyndref".

Llyndref ar y Llyn Inle, Myanmar.

Saif olion llyndai cynhanesyddol (Almaeneg: Pfahlbauten) ar lannau llynnoedd yn ne'r Almaen, y Swistir, Ffrainc, a'r Eidal. Adeiladwyd llyndai yn yr Alpau o Oes y Cerrig hyd Oes yr Haearn, a chred anthropolegwyr cafodd y llyndai hyn eu codi ar gorsydd glannau'r llynnoedd yn hytrach nag ar y dyfroedd.[3]

Ceir llyndai heddiw mewn ardaloedd trofannol ac isdrofannol y byd, er enghraifft Maleisia, Indonesia, Indo-Tsieina, Y Philipinau, a De America.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: