Mantell felyngoch

Dryas iulia
O'r top
O'r ochor
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Arthropoda
Dosbarth:Insecta
Urdd:Lepidoptera
Teulu:Nymphalidae
Llwyth:Heliconiini
Genws:Dryas
Hübner, [1807]
Rhywogaeth:D. iulia
Enw deuenwol
Dryas iulia
(Fabricius, 1775)
Isyrwogaethau

14 ssp., gweler y testun

Cyfystyron

Genws:
Alcionea Rafinesque, 1815
Colaenis Hübner, 1819


Rhywogaeth:
Dryas julia (lapsus)[1]

Glöyn byw sy'n perthyn i'r genws Dryas yn urdd y Lepidoptera yw mantell felyngoch, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll melyngoch; yr enw Saesneg yw Julia neu The Flame, a'r enw gwyddonol yw Dryas iulia (neu wedi'i gamsillafu weithiau fel: Dryas julia[1]) [2][3]. Fe'i canfyddir ym Mrasil, Texas a Florida ac yn ystod yr haf fe'i welir mewn cynefinodd mor bell i'r de â dwyrain Nebraska.

Glöyn wedi'i fframio.
Chwith: o'r top; dde: gwaelod - MHNT

Ceir dros 15 o isrywogaethau (gweler isod).

Mae'n löyn mawr, gyda lled yr adenydd ar ei eithaf rhwng 82 a 92 mm. Mae'r lliw oren yn fwy llachar yn y gwryw na'r fenyw. Yn wahanol i lawer o loynnod, caiff lonydd gan adar. Gan ei fod yn effro yn ystod y dydd a fod ganddo oes hir, mae'n eitha cyffredin ei wedi mewn adeiladau gloynnod e.e. Pili Palas.

Cynefin

Mae'r Fantell felyngoch yn hoff iawn o ymylon coedwigoedd, llennyrch a llwybrau cerdded. Mae'n chwim iawn ar ei adain. Prif fwyd y siani flewog ydy mathau o Passiflora.

Isrywogaethau

Yn nhrefn yr wyddor:[4]

  • D. i. alcionea (Cramer, 1779)
  • D. i. carteri (Riley, 1926)
  • D. i. delila (Fabricius, 1775)
  • D. i. dominicana (Hall, 1917)
  • D. i. framptoni (Riley, 1926)
  • D. i. fucatus (Boddaert, 1783)
  • D. i. iulia (Fabricius, 1775)
  • D. i. lucia (Riley, 1926)
  • D. i. largo Clench, 1975
  • D. i. martinica Enrico & Pinchon, 1969
  • D. i. moderata (Riley, 1926)
  • D. i. nudeola (Bates, 1934)
  • D. i. warneri (Hall, 1936)
  • D. i. zoe Miller & Steinhauser, 1992

Oriel luniau

Cyffredinol

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r fantell felyngoch yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau