Michael Farmer

Barnwr o Gymro oedd Yr Anrhydeddus Farnwr Pryce Michael Farmer QC (20 Mai 19449 Ebrill 2011).[1]

Michael Farmer
Ganwyd20 Mai 1944 Edit this on Wikidata
Pen-y-groes Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ebrill 2011 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbarnwr, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddCwnsler y Brenin, barnwr cylchdaith Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

Mynychodd Pryce Michael Farmer Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes. Gadawodd ei dad y teulu pan oedd Michael yn faban, ac felly cafodd ei fagu gan ei nain tra oedd ei fam yn gweithio. Y ffilm Witness for the Prosecution a wnaeth ennyn diddordeb yn y gyfraith ynddo pan oedd yn blentyn. Astudiodd y Saesneg yng Ngholeg y Brenin, Llundain ond penderfynodd yn hwyrach i astudio'r gyfraith. Gweithiodd fel athro Saesneg yng am bedair mlynedd yng Ngholeg Dewi Sant, Llandudno er mwyn ennill digon o arian i astudio yn Gray’s Inn.[1]

Gyrfa

Cafodd ei alw i'r Bar ym 1972 a chychwynnodd ei yrfa gyfreithiol ar Gylchdaith Cymru a Chaer gan dderbyn cynnig o dymor prawf ac yn hwyrach tenantiaeth yn Sedan House, siambrau'r Arglwydd Hooson yng Nghaer. O 1973 hyd 1995 ymarferodd y gyfraith gyffredin yng Ngogledd Cymru a Swydd Gaer, gan gymryd rhan mewn nifer o achosion sifil a throseddol a chadeirio nifer o ymchwiliadau cyhoeddus. Daeth yn Gofiadur Cynorthwyol, a chafodd sidan ym 1995. Dewisodd Farmer i barhau ei yrfa yng Nghaer fel pennaeth Siambrau yn Sedan House, a pheidio i symud i Lundain. Ym 1995 penodwyd yn Gofiadur Llys y Goron, ac yn 2001 daeth yn farnwr ar Gylchdaith Cymru a Chaer. Yn 2004 fe'i benodwyd yn Farnwr Teuluol Penodedig dros Ogledd Cymru ac yn ddirprwy Farnwr Cyswllt dros yr iaith Gymraeg ar Gylchdaith Cymru a Chaer.[1] Roedd yn Aelod Cyfreithiol o'r Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl o 2001 hyd 2008.[2] Yn 2004 penodwyd Farmer yn Ddirprwy Uwch Farnwr dros yr ardaloedd Canolfan Sofran Akrotiri a Dhekelia yng Nghyprus, ac yn 2010 penodwyd yn Ddirprwy Raglaw Clwyd.[1]

Roedd Farmer yn un o ychydig o farnwyr oedd yn medru'r Gymraeg, a dan ei arweiniad daeth Sedan House yn brif ddarparwr adfocadau Cymraeg eu hiaith ar gyfer Gogledd Cymru. Roedd Michael Farmer yn gefnogwr brwd o'r iaith Gymraeg a gweithiodd i sicrháu'r hawl i gynnal achosion yn y Gymraeg yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.[1][3] Wedi ei farwolaeth dywedodd y Barnwr Derek Halbert "roedd ganddo'r meddwl cyfreithiol gorau yng Nghymru",[4] ac yn ôl Dafydd Wigley roedd yn "genedlaetholwr a oedd yn gefnogol iawn i bopeth Cymreig".[5]

Bywyd personol

Safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Conwy yn etholiadau cyffredinol Chwefror ac Hydref 1974, ond roedd yn aflwyddiannus.[1]

Priododd Olwen Roberts ym 1975 a chafodd mab a merch, Siôn ap Mihangel a Mair Mihangel,[4] y ddau ohonynt yn fargyfreithwyr yn hen siambrau eu tad yng Nghaer.[1] Roedd y teulu yn byw yn yr Wyddgrug am flynyddoedd[3] ac yna roedd Michael ac Olwen yn byw yn Upper Downing Road, Chwitffordd, ger Treffynnon, Sir y Fflint.[4] Trodd Michael yn Babydd yn ystod ei arddegau. Darllenodd weddi yn y Gymraeg ym Mharc Cofton, Birmingham, pan ymwelodd y Pab Bened XVI â Lloegr a'r Alban ym Medi 2010. Roedd Michael yn llywydd Clwb Rygbi Yr Wyddgrug o 2001 hyd 2005.[1] Roedd hefyd yn gadeirydd y garfan bwyso Gristnogol BARA, a lansiwyd yn 2009 i gynnig cymorth i gyn-garcharorion,[6] ac yn aelod o Gymdeithas Thomas Pennant.[4]

Yn Eisteddfod Genedlaethol 2009 ymunodd â Gorsedd y Beirdd.[7] Rhoddwyd iddo'r enw barddol Ustus o’r Glyn, gan gyfeirio at gartref ei blentyndod Glynllifon. Roedd disgwyl iddo annerch Cyfraith-Gymdeithas Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol 2011,[1] ond bu farw ar 9 Ebrill yn 66 oed yn Llundain, yn debyg o drawiad ar y galon.[4]

Cyfeiriadau