Monocotyledon

Monocotyledonau
Lili fartagon (Lilium martagon)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Plantae
Ddim wedi'i restru:Angiosbermau
Ddim wedi'i restru:Monocotau
Urddau

Gweler y rhestr

Grŵp mawr o blanhigion blodeuol llysieuol gydag un had-ddeilen yn y hedyn yw'r monocotyledonau (hefyd unhad-ddail neu unhadgibogion). Mae tua 60,000 o rywogaethau ledled y byd,[1] gan gynnwys lilïau, tegeirianau, palmwydd a glaswellt. Fel arfer, mae gan y monocotyledonau ddail di-goes hirgul gyda gwythiennau cyfochrog ac organau blodeuol wedi'u trefnu mewn lluosrifau o dri.[2] Mae'r grŵp yn cynnwys llawer o gnydau pwysig a phlanhigion yr ardd.

Urddau

Mae dosbarthiad y monocotyledonau yn amrywio. Mae'r rhestr isod yn dilyn yr Angiosperm Phylogeny Group.[3]

UrddEnghreifftiau
Acoralesgellesgen bêr
Alismatalesllyriad y dŵr, gwellt y gamlas, llinad y dŵr, pidyn y gog
Petrosaviales
Dioscorealesiam
Pandanalessgriwbinwydden
Lilialeslili, tiwlip, cwlwm cariad
Asparagalesmerllys, cenhinen, cenhinen Bedr, garlleg, eirlys, tegeirian
Comelinidau
   Teulu Dasypogonaceae (urdd ansicr)
   Arecalespalmwydden
   Commelinalesllysiau'r corryn
   Poalesglaswellt, gwenith, haidd, reis, hesgen, brwynen, bromelia
   Zingiberalessinsir, banana

Cyfeiriadau