Comelinid

Comelinidau
Hedychium gardnerianum
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Plantae
Ddim wedi'i restru:Angiosbermau
Ddim wedi'i restru:Monocotau
Ddim wedi'i restru:Comelinidau
Urddau
  • Teulu Dasypogonaceae (urdd ansicr)
  • Arecales
  • Commelinales
  • Poales
  • Zingiberales

Grŵp mawr o blanhigion blodeuol monocotyledonaidd yw'r comelinidau (Saesneg: commelinids). Fe'u nodweddir gan gyfansoddion anarferol yn eu cellfuriau sy'n fflwroleuol mewn golau uwchfioled. Mae'r grŵp yn cynnwys nifer o blanhigion o bwysigrwydd economaidd megis palmwydd, bananas, sinsir a grawnfwydydd fel gwenith, indrawn a reis.

Urddau a theuluoedd

Mae'r comelinidau'n cynnwys 4 urdd a 31 o deuluoedd yn ôl y system APG III:[1]

  • Dasypogonaceae: llwyni a choed o Awstralia, 16 rhywogaeth
  • Arecales
  • Commelinales
    • Commelinaceae: planhigion llysieuol suddlon, 652 rywogaeth e.e. llysiau'r corryn
    • Haemodoraceae: planhigion llysieuol â gwreiddiau coch, 116 rhywogaeth e.e. Pawen Cangarŵ
    • Hanguanaceae: De-ddwyrain Asia ac Awstralasia, 10 rhywogaeth
    • Philydraceae: Dwyrain Asia ac Awstralasia, 5 rhywogaeth
    • Pontederiaceae: planhigion sy'n tyfu mewn dŵr neu gorsydd, 33 rhywogaeth
  • Poales
    • Anarthriaceae: Gorllewin Awstralia, 11 rhywogaeth
    • Bromeliaceae: yr Amerig a Gorllewin Affrica, 1779 rhywogaeth e.e. pinafal
    • Centrolepidaceae: De-ddwyrain Asia, Awstralasia a De America, 35 rhywogaeth
    • Cyperaceae: yr hesg, ledled y byd, 5430 rhywogaeth
    • Ecdeiocoleaceae: Gorllewin Awstralia, 3 rhywogaeth
    • Eriocaulaceae: trofannau ac is-drofannau, 1160 rhywogaeth
    • Flagellariaceae: lianau o Affrica, de Asia ac Awstralasia, 4 rhywogaeth
    • Joinvilleaceae: de-ddwyrain Asia ac Awstralasia, 2 rywogaeth
    • Juncaceae: y brwyn, ledled y byd, 430 rhywogaeth
    • Mayacaceae: planhigion bach o wlyptiroedd, Affrica a'r Amerig, 4-10 rhywogaeth
    • Poaceae: y gweiriau, ledled y byd, 10,035 rhywogaeth
    • Rapateaceae: De America a gorllewin Affrica, 94 rhywogaeth
    • Restionaceae: Chile, Affrica, de-ddwyrain Asia ac Awstralasia, 500 rhywogaeth
    • Thurniaceae: De America a De Affrica, 4 rhywogaeth
    • Typhaceae: ledled y byd, tua 25 rhywogaeth
    • Xyridaceae: gwlyptiroedd mewn rhanbarthau cynnes, 260 rhywogaeth
  • Zingiberales
    • Cannaceae: planhigion llysieuol mawr o'r Amerig , 10 rhywogaeth
    • Costaceae: fforestydd trofannol, 110 rhywogaeth
    • Heliconiaceae: rhanbarthau trofannol o'r Amerig ac Awstralasia, 100-200 rhywogaeth
    • Lowiaceae: De-ddwyrain Asia, 15 rhywogaeth
    • Marantaceae: fforestydd trofannol, 550 rhywogaeth e.e. arorwt
    • Musaceae: planhigion llysieuol mawr o Affrica, De Asia ac Awstralasia, 41 rywogaeth e.e. banana
    • Strelitziaceae: De America, De Affrica a Madagasgar, 7 rhywogaeth
    • Zingiberaceae: y trofannau, 1075-1300 rhywogaeth e.e. sinsir, cardamom, tyrmerig

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • Heywood, Vernon H.; Richard K. Brummitt, Ole Seberg & Alastair Culham (2007) Flowering Plant Families of the World, Royal Botanic Gardens, Kew.
  •  Stevens, P. F. (2001 ymlaen). Angiosperm Phylogeny Website. Adalwyd ar 17 Ebrill 2012.