Port Moresby

Prifddinas a dinas fwyaf Papua Gini Newydd yw Port Moresby (Tok Pisin: Pot Mosbi). Lleolir ar arfordir dwyreiniol Harbwr Port Moresby yng Ngwlff Papua.

Port Moresby
Mathprifddinas, dinas â phorthladd, dinas fawr, tref/dinas, administrative territorial entity of Papua New Guinea, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlJohn Moresby Edit this on Wikidata
Poblogaeth317,374 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1873 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+10:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iTownsville, Jinan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPapua Gini Newydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Papua Gini Newydd Papua Gini Newydd
Arwynebedd240 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr35 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawGwlff Papua Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau9.4789°S 147.1494°E Edit this on Wikidata
Cod post111 Edit this on Wikidata
PG-NCD Edit this on Wikidata
Map

Mae gan y ddinas ddwysedd poblogaeth uchaf y wlad o lawer, sy'n cynnwys cymuned Tsieineaidd. Mae nifer sylweddol o drigolion yn byw mewn trefi cytiau a sgwatiau ar gyrion y ddinas. Amcangyfrifir bod 337,900 o drigolion gan Port Moresby yn 2004,[1] a 343,000 yn 2011,[2] a mwy na 400,000 yn 2014.[3][4]

Lleolir adeiladau'r llywodraeth yng nghanol y ddinas ac yn y maestrefi. Daw cyflenwad dŵr o Afon Laloki, a saif gorsaf trydan dŵr ar yr afon. Mae ffyrdd yn cysylltu Port Moresby i Sogeri, Kwikila, a Rhaeader Rouna, a cheir gwasanaethau cludo nwyddau ar longau i borthladdoedd eraill gan gynnwys Sydney.[1]

Mae gan Port Moresby gyfraddau uchel o dor-cyfraith, ac ystyrir yn un o'r dinasoedd sy'n waethaf ei byw ynddi yn y byd.[3][5][6][7]

Hanes

Cyn dyfodiad yr Ewropeaid, y pobloedd Motu a Koitabu oedd trigolion yr ardal. Pysgota a thyfu iamau oedd eu bywoliaeth a buont yn masnachu gyda threfi eraill ar hyd yr arfordir. Ymwelodd y Capten John Moresby â'r ardal ym 1873 ac enwodd dwy adran y harbwr yn Fairfax a Moresby, ar ôl ei dad y Llyngesydd Syr Fairfax Moresby. Cafodd yr ardal ei gyfeddiannu gan yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1883–84, a Port Moresby oedd enw poblogaidd y dref. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd daeth yn un o brif ganolfannau'r Cynghreiriaid yn y Cefnfor Tawel a bwriadodd y Japaneaid ei chipio.[1]

Wedi'r rhyfel, Port Moresby oedd prifddinas weinyddol Tiriogaeth Papua ac yn hwyrach Tiriogaeth Papua a Gini Newydd, dan reolaeth Awstralia. Datblygodd y porthladd yn ddinas gynlluniedig fodern. Sefydlwyd Ardal y Brifddinas Genedlaethol (240 km2) ym 1974, a daeth Port Moresby yn brifddinas Papua Gini Newydd pan enillodd y wlad ei hannibyniaeth ym 1975.[1]

Bydd Port Moresby yn cynnal uwchgynhadledd APEC yn 2018.[8]

Adeiladau ac adeilwadwaith

  • Amgueddfa Genedlaethol
  • Gerddi Botanegol y Brifddinas Genedlaethol
  • Maes Awyr Rhyngwladol Jackson
  • Mynwent Ryfel Bomana
  • Prifysgol Papua Gini Newydd
  • Tŷ'r Senedd

Cyfeiriadau