Refferendwm annibyniaeth yr Alban, 2014

Gweler hefyd: Annibyniaeth yr Alban

Ar 18 Medi 2014 cynhaliodd Llywodraeth yr Alban refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban. Roedd y refferendwm yn gofyn i etholwyr yr Alban: "A ddylai'r Alban fod yn wlad annibynnol?"[1] (Saesneg: Should Scotland be an independent country?).[2] Roedd hyn yn dilyn cytundeb rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y Deyrnas Unedig,[3] yn dilyn papur a gyhoeddwyd ar 21 Mawrth 2013 a oedd yn gosod y seiliau.[4] ac a gymeradwywyd gan Senedd yr Alban ar 14 Tachwedd 2013 ac yn Llundain ar 17 Rhagfyr 2013.[5] Roedd angen mwyafrif (h.y. dros 50%) o'r pleidleisiau i annibyniaeth gael ei wireddu.[6][7] Canlyniad y referendwm oedd na ddylai'r Alban fod yn annibynnol gyda 1,617,989 (44.7%) o blaid a 2,001,926 (55.3%) yn erbyn. Pleidleisiodd 71% o bobl ifanc 16-17 oed dros annibyniaeth.

Refferendwm annibyniaeth i'r Alban
Dydd Iau, 18 Medi 2014
A ddylai'r Alban fod yn wlad annibynnol?
Canlyniadau
Ie neu NaPleidleisiauCanran
Ie1,617,989700144700000000000044.7%
Na2,001,926700155300000000000055.3%
Pleidl. dilys3,619,915700199910000000000099.91%
Annilys3,42969989000000000000000.09%
Cyfanswm y pleidleisiau3,623,344100.00%
Pleidleiswyr700184590000000000084.59%
Etholaeth4,283,392
Y canlyniadau yn ôl Cynghorau sir
     Ie     Na

Hyd at 12 diwrnod cyn y refferendwm, roedd y poliau'n nodi fod y garfan dros annibyniaeth tua chwe phwynt ar ôl y Na, ond ar y 6ed o Fedi cyhoeddwyd pôl piniwn y Times a oedd yn dangos fod 51% o'r etholwyr yn bwriadu pleidleisio dros annibyniaeth.[8] Mewn ymateb i hyn cyhoeddodd y Canghellor George Osborne y byddai'r Alban yn derbyn mwy o annibyniaeth a hawliau megis codi trethi, waeth beth fydd canlyniad i hyn. Yr un diwrnod, mynnodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y dylid rhoi'r un hawliau i Gymru.[9] Ymateb arall i hyn oedd i nifer o wleidyddion Saesneg gan gynnwys David Cameron, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ymweld â'r Alban er mwyn ceisio dylanwadu ar y bleidlais.

Siambr Senedd yr Alban, Holyrood, Caeredin
Prif Weinidog presennol yr Alban Nicola Sturgeon gyda'r cyn-Brif weinidog Alex Salmond; Awst 2007
Baner yr Alban ar y chwith a Jac yr Undeb, Lloegr, ar y dde.
Arolwg barn o'r holl bolau
Graff o holiaduron yn rhagweld sut oedd yr etholaeth yn bwriadu pleidleisio

Gan i'r mwyafrif bleidleisio yn erbyn annibyniaeth yna bydd yr Alban yn parhau o dan y drefn bresennol, yn rhan o'r Deyrnas Unedig,[6][7] ond addawyd y byddai rhagor o bwerau yn cael eu datganoli i'r Alban o Lundain, fel rhan o Ddeddfwriaeth yr Alban 2012.[6][7] I'r perwyl hwn gwnaed nifer o argymhellion yn Nhachwedd 2014 gan Y Comisiwn Smith.

Wrth grynhoi'r ymgyrch dros annibyniaeth yn Nhachwedd 2014 dywedodd Dylan Iorwerth Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, 'Llwyddiant rhyfeddol oedd pleidlais'Ie' refferendwm yr Alban gan fod Alex Salmond yn gwybod yn iawn mai cam oedd o, nid diwedd y daith. Mae galw Salmond yn fethiant fel pebai awduron 'Exodus' wedi dweud mai fflop oedd Moses.'[10]

Yr ymgyrch

Lansiwyd yr ymgyrch dros annibyniaeth ar y 25ain o Fai 2014.[11] Y Prif Weithredwr yw Blair Jenkins,[11] cyn Gyfarwyddwr Darlledu Teledu'r Alban (STV) a Phennaeth Newyddion a Materion Cyfoes STV a BBC yr Alban. Cefnogir yr ymgyrch gan yr SNP,[11] Plaid Werdd yr Alban a Phlaid Sosialaidd yr Alban.[12] Erbyn 22 Awst 2014 roedd dros un filiwn o Albanwyr wedi arwyddo deiseb yn galw am Annibyniaeth.[13]

Lansiwyd yr ymgyrch yn erbyn annibyniaeth (Better Together) ar 25 Mehefin 2012[14] dan arweinyddiaeth Alistair Darling, cyn Ganghellor y Trysorlys, ac fe'u cefnogir gan y Blaid Geidwadol, y Blaid Lafur a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd.[14]

Cadarnhaodd Llywodraeth yr Alban drwy fesur cyfreithiol i ostwng oed pleidleisio o 18 i 16 oed, fel rhan o bolisi'r SNP dros safoni'r oedran hwn ym mhob etholiad yn yr Alban.[15][16] Cytunodd y Blaid Lafur, y Rhyddfrydwyr a'r Blaid Werdd gyda'r mesur.[17][18]

Yn Ionawr 2012, arweiniodd Elaine Murray, Aelod o'r Blaid Lafur, ymgyrch yn annog y dylid rhoi'r hawl i'r 800,000 o Albanwyr sy'n byw y tu allan i'r Alban i gael yr hawl i bleidleisio. Gwrthwynebwyd hyn gan Lywodraeth yr Alban, a ddadleuodd y byddai'n anodd iawn i weinyddu hyn ac y byddai Adran Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn cwestiynu cyfreithlondeb refferendwm sydd heb ei seilio ar ffiniau daearyddol.[19]

Dywedodd Dylan Iorwerth mai dim ond rhesymau economaidd oedd gan y garfan yn erbyn annibyniaeth; Y rhyfeddod ydi'r diffyg sôn am genedligrwydd a hanes a diwylliant. meddai.[20]

Y broses

Cychwynwyd pleidleisio ar 27 Awst 2014 pan dderbyniodd pleidleiswyr post eu ffurflenni pleidleisio. Cofrestrodd 680,235 ar gyfer hyn, sef 20% yn uwch nag ym Mawrth 2014.[21] Arestiwyd un dyn 28 oed o Drumchapel am geisio gwerthu ei ffurflen bleidleisio ar eBay.[22] Y diwrnod olaf y gellid cofrestru ar gyfer y refferendwm oedd yr ail o Fedi.[21]

Dadlau cyhoeddus

Wedi llawer o negydu rhwng y ddwy garfan, trefnwyd dadl deledu rhwng y ddau arweinydd Salmond a Darling[23] ar raglen o'r enw Salmond & Darling: The Debate, a chafodd ei darlledu ar STV ar 5 Awst 2014. Cynhaliwyd ail ddadl rhyngddynt ar 25 o Awst 2014, o'r enw Scotland Decides: Salmond versus Darling ac fe'i darlledwyd ar BBC One Scotland a BBC 2 ar gyfer gweddill gwledydd Prydain.[24][25] Ystyriwyd mai Alastair Darling enillodd y ddadl deledu gyntaf gyda 53% o'r cyhoedd yn credu mai Darling a ddaeth allan gryfaf[26]. Fodd bynnag yn yr ail ddadl deledu credwyd mai Alec Salmond lwyddodd i berswadio'r cyhoedd orau.[27]

Canlyniad

Cyhoeddwyd y canlyniadau fesul un, o 32 Awdurdodau unedol yr Alban. Swydd Clackmannan oedd y cyntaf i gyhoeddi eu canlyniadau:

Fesul rhanbarth

EtholaethNifer o Blaid (Ie)Nifer yn Erbyn (Na)O Blaid (Ie) (%)Yn Erbyn (Na) (%)Nifer Balodau*Cynulliad (%)
Dinas Aberdeen143,66481.7
Swydd Aberdeen87.2
Angus80,30085.7
Argyll a Bute
Swydd Clackmannan16,35019,03646.253.835,41088.6
Dumfries a Galloway
Dinas Dundee53,62039,88057.3542.6593,59278.8
Dwyrain Swydd Ayr84,25284.5
Dwyrain Swydd Dunbarton79,01191.0
Dwyrain Lothian27,46744,28371,79887.6
Dwyrain Swydd Renfrew66,02190.4
Dinas Caeredin
Falkirk50,48958,03046.5353.47108,62688.7
Fife
Dinas Glasgow364,66475.0
Yr Ucheldir
Inverclyde27,24327,32949.9250.0854,60187.4
Midlothian26,37033,97243.7056.3060,39686.8
Moray85.4
Gogledd Swydd Ayr
Gogledd Swydd Lanark
Perth a Kinross104,28586.9
Swydd Renfrew117,61287.3
Gororau'r Alban
De Swydd Ayr81,71586.1
De Swydd Lanark22,93785.3
Stirling25,01037,15340.2359.7762,22590.1
Gorllewin Swydd Dunbarton33,72028,77653.9646.0462,53287.9
Gorllewin Lothian
Na h-Eileanan Siar (Ynysoedd y Gorllewin)9,19510,54446.5853.4219,75886.2
Ynysoedd Erch4,83310,00432.867.214,88783.7
Ynysoedd Shetland5,6699,95136.2963.7115,63584.4
CYFANSWM1,617,9892,001,92644.7%55.3%3,619,91584.6%

Roedd 4.2 miliwn wedi cofrestr (97% o'r etholwyr), gyda 32 sir yn cyfri'r pleidleisiau.

Dywedodd Adam Price ar raglen S4C a BBC Radio Cymru ar ddiwrnod y refferendwm: "Mae annibyniaeth yr Alban yn mynd i ddigwydd. Mae yna genhedlaeth o bobl ifanc sydd wedi cael eu gwleidyddu a dydyn nhw ddim yn mynd i dderbyn canlyniad na, felly mi ddaw yn ôl."[28]

* Gan cynnwys baledau wedi'i sbwylio, ac felly gall y nifer fod yn fwy na chyfanswm y pleidleisiau.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolen allanol