Sillwyddor

Set o symbolau ysgrifenedig yw sillwyddor sy'n cynrychioli sillafau neu (yn amlach) moras a defnyddir i ffurfio geiriau. Mae symbol mewn sillwyddor, a elwir yn syllabogram, yn cynrychioli cytsain ddewisol (cyrch syml) a llafariad (cnewyllyn) yn nodweddiadol —hynny yw, CV neu V sillafog— ond ceir mapiadau ffonograffig eraill mewn sillafau, megis CVC, CV-tôn ac C (fel arfer trwynolion ar goda).

Fe ddefnyddir sillwyddorion i ysgrifennu sawl iaith, e.e. Siapaneg a rhai tafodieithoedd Tsieinëeg. Mae'r iaith Siapaneg yn defnyddio dwy sillwyddor, sef hiragana a katakana, a defnyddir i ysgrifennu rhai geiriau ac elfennau gramadegol genedigol, a geiriau estronol at hynny.

Ceir sawl sillwyddor:

  • Afaka — Ndyuka
  • Ysgrifen Alaska — Yupik
  • HiraganaSiapaneg
  • Katakana — Siapaneg
  • Mendeg — Mendeg
  • Kpeleg — Kpeleg
  • Llinysgrif A — Minoëg
  • Nü Shu — Yao
  • Sillwyddor Gypraidd a Minoaidd — Groeg Myseneaidd
    • Sillwyddor Gypraidd — Hen Roeg
  • Tsierocî — Tsierocî
  • Vai — Vai
  • Yi (diweddar) — sawl iaith Yi/Lolo
Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.