Siofinyddiaeth

Teyrnarwch gormodol neu ragfarnllyd i achos yw siofinyddiaeth.[1] Defnyddir yn bennaf i ddisgrifio gwladgarwch eithafol jingoaidd, neu oruchafiaeth wrywol ar draul merched.

Deillia'r gair o Nicolas Chauvin, milwr Ffrengig a oedd yn gefnogwr selog i Napoleon. Yn debyg i nifer o gyn-filwyr Napoleon, canodd Chauvin glodydd y fyddin Ffrengig a'r Ymerodraeth Napoleonaidd, hyd at iddo fod yn destun sbort.[2]

Cyfeiriadau