Staliniaeth

Athrawiaeth wleidyddol yw Staliniaeth sydd yn gyfystyr â dulliau llywodraethu a pholisïau Joseff Stalin (1878–1953), a fu'n unben ar yr Undeb Sofietaidd o 1927 i 1953. Prif bolisïau llywodraeth Stalin yn y cyfnod hwn oedd diwydiannu ar raddfa gyflym, damcaniaeth "sosialaeth mewn un wlad", y wladwriaeth dotalitaraidd, cyfunoli ffermydd, cwlt personol yn enw Stalin,[1][2] a darostwng buddiannau pleidiau comiwnyddol mewn gwledydd eraill i ideoleg a rhaglen wleidyddol y Blaid Gomiwnyddol Sofietaidd, a ystyriwyd ar flaen y gad yn y chwyldro comiwnyddol.[3]

Galwodd Stalin am gynyddu gwrthdaro dosbarth a defnyddiwyd trais y wladwriaeth i chwynnu cymdeithas a chael gwared ar fygythiad y fwrdeisiaeth i'r chwyldro comiwnyddol. O ganlyniad, bu ymgyrchoedd eang o erledigaeth yn erbyn y rhai a ystyriwyd yn elynion y proletariat, gan gynnwys gwrth-chwyldroadwyr yn y dosbarth gweithiol.[4][5]

Joseff Stalin.

Cyfeiriadau