Swltan

teitl bonheddig a pharchusol

Brenin neu bennaeth gwladwriaeth Fwslimaidd yw swltan (amrywiad: syltan; o'r Saesneg sultan, seisnigiad o'r gair Arabeg سلطان). Yn wreiddiol roedd y gair swltan yn enw haniaethol yn golygu "nerth", "awdurdod", neu "rheolaeth", yn deillio o'r berfenw Arabeg سلطة sulṭah, sy'n golygu "awdurdod" neu "grym". Yn nes ymlaen cafodd ei ddefnyddio fel teitl rhai rheolwyr Mwslim a hawliai awdurdod sofranaidd ymarferol, h.y. heb fod yn ddibynnol ar awdurdod uwch, ond heb hawlio bod yn califfiaid; yn ogystal gallai fod yn deitl llywodraethwr talaith bwysig yn y califfiaeth dan galiff Baghdad.

Swltan
swltan Swleiman I o'r Ymerodraeth Otomaniad
Enghraifft o'r canlynolteitl bonheddig, teitl parchusol, swydd Edit this on Wikidata
Mathbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Daeth i ben1924 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Swltan Bayezid, pennaeth Ymerodraeth yr Otomaniaid - Olew ar gynfas gan Haydar Hatemi, 1999

Gelwir breninllin neu deyrnas a reolir gan swltan yn Swltanaeth (Arabeg: سلطنة‎).

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.