Tim Cahill

Pêl-droediwr o Awstralia ydy Tim Cahill (ganwyd Timothy Filiga Cahill, 6 Rhagfyr 1979) sy'n chwarae i'r Shanghai Shenhua yng Nghynghrair Chinese Super League yn y Tsieina ac i dîm pêl-droed cenedlaethol Awstralia. Cyn symud i Efrog Newydd roedd yn chwarae ei bêl-droed yn Lloegr i Millwall ac Everton.

Tim Cahill

Cahill gydag Awstralia yn 2009
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnTimothy Filiga Cahill[1]
Dyddiad geni (1979-12-06) 6 Rhagfyr 1979 (44 oed)
Man geniSydney, Awstralia
Taldra1.78m[2]
SafleYmosodwr
Y Clwb
Clwb presennolShanghai Shenhua
Rhif17
Gyrfa Ieuenctid
1995-1997Sydney Olympic FC
1997Sydney United
1997–1998Millwall
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1998–2004Millwall217(52)
2004–2012Everton226(56)
2012–2014New York Red Bulls46(13)
2015–2016Shanghai Shenhua7(1)
Tîm Cenedlaethol
1994Samoa dan 20[3]2(0)
2004Awstralia dan 233(1)
2004–2018Awstralia82(9)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 28 Ebrill 2015.

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 28 Ebrill 2015

Ganed Cahill yn Sydney, Awstralia i dad Seisnig o dras Gwyddelig a mam o Samoa[4][5].

O'r herwydd, roedd yn gymwys i chwarae pêl-droed i Awstralia, Lloegr, Samoa a Gweriniaeth Iwerddon a phan yn 14-mlwydd-oed cafodd ei alw i garfan dan 20 Samoa ar gyfer Pencampwriaeth dan 20 Oceania[6]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel eilydd mewn colled 3-0 yn erbyn Seland Newydd a chwaraeodd ei ail gêm yn y golled 3-0 erbyn Fanwatw[7].

Yn 2002 cafodd Cahill gynnig i ymuno â charfan Gweriniaeth Iwerddon ond oherwydd ei ddwy gêm i dîm dan 20 Samoa, nid oedd yn gymwys[3], ond newidiwyd rheolau cymhwyster FIFA yn 2004 a penderfynodd Cahill ddewis cynrychioli Awstralia[8].

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r Socceroos mewn gêm gyfeillgar yn erbyn De Affrica ar 30 Mawrth 2004 yn Loftus Road, Llundain[9] a bellach, Cahill yw prif sgoriwr yn holl hanes pêl-droed Awstralia gyda 31 gôl ar ôl iddo rwydo dwywaith mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Ecwador ar 5 Mawrth 2014[10].

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droediwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.