Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yn cynrychioli Lloegr yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth y Gymdeithas Bêl-droed (Saesneg: The Football Association; FA), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FA yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Lloegr
LlysenwThe Three Lions ("Y Tri Llew")
CymdeithasCymdeithas Pêl-droed Lloegr (The Football Association) (FA)
ConffederasiwnUEFA
Prif HyfforddwrGareth Southgate
CaptenHarry Kane
Mwyaf o GapiauPeter Shilton (125)
Prif sgoriwrWayne Rooney (53)
Stadiwm cartrefStadiwm Wembley
Cod FIFAENG
Safle FIFA12
Safle FIFA uchaf3 (Awst 2012)
Safle FIFA isaf27 (Chwefror 1996)
Safle ELO7
Safle ELO uchaf1 (y tro cyntaf: Tachwedd 1872; yn fwyaf diweddar: Mehefin 1988)
Safle ELO isaf13 (1936)
Gêm ryngwladol gyntaf
Baner Yr Alban Yr Alban 0–0 Lloegr Baner Lloegr
(Partick, Yr Alban; 30 Tachwedd 1872)
Buddugoliaeth fwyaf
Iwerddon 0–13 Lloegr Baner Lloegr
(Belfast, Iwerddon; 18 Chwefror 1882)
Colled fwyaf
Hwngari 7–1 Lloegr Baner Lloegr
(Budapest, Hwngari; 23 Mai 1954)
Cwpan y Byd
Ymddangosiadau15 (Cyntaf yn 1950)
Canlyniad GorauEnillwyr, 1966
Pencampwriaeth Ewrop
Ymddangosiadau9 (Cyntaf yn 1968)
Canlyniad Gorau3ydd, 1968; cyn-derfynol, 1996


Diweddarwyd 27 Mehefin 2012.

Mae Lloegr wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd pedairarddeg o weithiau gan ennill y gystadleuaeth ar eu tomen eu hunain ym 1966. Maent hefyd wedi chwarae ym Mhencampwriaethau Pêl-droed Ewrop wyth o weithiau gan gynnal y gystadleuaeth ym 1996.

Hanes

Honnir mai Timau Lloegr a'r Alban yw'r ddau dîm pêl-droed cenedlaethol hyna'r byd. Chwaraewyd y gêm gyntaf rhwng yr Alban a Lloegr ar 5 Mawrth 1870.

Am flynyddoedd, tan iddynt ymuno gyda FIFA yn 1906, yr Alban, Iwerddon a Chymru oedd eu hunig gwrthwynebwyr. Nid oedd ganddynt stadiwm cenedlaethol hyd nes i Wembley gael ei agor yn 1923. Roedd y berthynas rhyngddyn nhw a FIFA yn sigledig iawn, a gadawodd Lloegr yn 1928, cyn ailymuno yn 1946. Oherwydd hyn, ni chymeron nhw ran ym Mhencampwriaeth y Byd tan 1950.

Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.