* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 10 Mai 2016.
† Ymddangosiadau (Goliau).
‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 25 Mehefin 2016
Pêl-droediwr yw Thomas Henry Alex "Hal" Robson-Kanu (ganwyd 21 Mai1989). Mae'n chwarae fel asgellwr i Reading ac i Gymru.
Dechreuodd ei yrfa amatur pan oedd yn ddisgybl ysgol yn chwarae i Arsenal ond yn 15 oed symudodd at Reading. Wedi iddo raddio o'u hacademi yn 2007 treuliodd gyfnod ar fenthyciad i Southend United ac yna Swindon Town cyn dychwelyd i Reading. Cafodd ei gêm gyntaf yn 2009. Ar y fainc y treuliodd llawer o'i dymor cyntaf yn y Bencampwriaeth ond cyrhaeddodd ei anterth yn 2011–12 pan ddaeth ei glwb yn fuddugol. Chwaraeodd yn yr Uwchgynghrair yn gyntaf yn 2012 ac mae wedi chwarae dros gant o gemau i'w glwb.
Cyhoeddodd ei ymddeoliad o bêl-droed ryngwladol ar 29 Awst 2018.[3]