Mae The Talented Mr. Ripley yn ffilm o 1999 a gyfarwyddwyd gan Anthony Minghella. Mae'r ffilm yn addasiad o nofel 1955 Patricia Highsmith. Cafodd ei ffilmio ym 1960 hefyd o dan yr enw Plein Soleil.
Serennodd The Talented Mr. RipleyMatt Damon fel Tom Ripley, Gwyneth Paltrow fel Marge Sherwood, Jude Law fel Dickie Greenleaf, Cate Blanchett fel Meredith Logue (cymeriad a grëwyd ar gyfer y ffilm), Philip Seymour Hoffman fel Freddie Miles, Jack Davenport fel Peter Smith-Kingsley (cymeriad a ddatblygwyd ar gyfer y ffilm) a James Rebhorn fel Herbert Greenleaf.
Ffilmiwyd y rhan fwyaf o'r ffilm yn yr Eidal gyda dinasoedd fel Rhufain a Fenis yn cael eu defnyddio fel cefnlen i'r naratif.