Ym 1889 aeth i Conservatoire Paris, lle bu'n astudio cerddoriaeth gyda Charles de Bériot, Émile Pessard, André Gedalge, a Gabriel Fauré. Yn 1893, cyfarfu ag Erik Satie, a dylanwadwyd arno gan ei gerddoriaeth. Oherwydd ei arddull unigryw o ysgrifennu cerddoriaeth, cafodd drafferth ennill ysgoloriaeth y Prix de Rome yn y Conservatoire, ac ym 1905 bu’n rhaid iddo adael.
O 1920 roedd yn byw yn Montfort-l'Amauryn yn Yvelines. Ym 1928 gwnaeth daith bedwar mis trwy'r Unol Daleithiau a Canada, ac yn yr un flwyddyn bu yn Lloegr er mwyn derbyn doethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Rhydychen. O 1933 hyd ddiwedd ei oes, bu'n dioddef salwch ar yr ymennydd.