Gwobr Lenyddol Nobel, Gwobr Cholmondeley, Geoffrey Faber Memorial Prize, Gwobr Eric Gregory, Gwobr PEN Iwerddon, T. S. Eliot Prize, Commandeur des Arts et des Lettres, Gwobr E. M. Forster, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Gwobr James Joyce, Gwobr Sikkens, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, honorary doctorate of the University of La Coruña, Ulysses Medal, Duff Cooper Prize, Poetry Now Award, Poetry Now Award, David Cohen Prize, Irish Book Awards, Griffin Poetry Prize, Forward Poetry Prize, PEN Translation Prize, Gwobr Llyfrau Costa, Gwobr Llyfrau Costa, Gwobr Llyfrau Costa, Truman Capote Award for Literary Criticism, People of the Year Awards, Lannan Literary Awards, Golden Rose Award, Gwobr Somerset Maugham, Gwobr Lenyddol WH Smith, Flaiano Prize, AWB Vincent Literary Award, AWB Vincent Literary Award, Cunningham Medal, Torch Aur, Doctor honoris causa o Brifysgol Jagiellonian, Krakow, Member of the Royal Irish Academy, Medal Bodley, Horst-Bienek-Preis für Lyrik
Ganed Heaney ger Castledawson yng Ngogledd Iwerddon, yr hynaf o naw o blant. Addysgwyd ef yng Ngholeg St Columb, lle dysgodd Wyddeleg, yna mewn ysgol breswyl Gatholig yn Derry. Yn 1957 aeth i Brifysgol Queens, Belffast i astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, cyn hyfforddi fel athro. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, Eleven Poems, ym 1965. Ym 1976 symudodd i Ddulyn i ddysgu yng Ngholeg Carysfort.
Ar ei farwolaeth yn 2013, roedd gwerthiant ei lyfrau'n ddau-draean o gyfanswm llyfrau beirdd cyfoes gwledydd Prydain.[2] Mae ei waith yn ymwneud ag Iwerddon, yn enwedig Gogledd Iwerddon, ble'i ganwyd. Pan soniodd am ei blentyndod un tro, dywedodd: "I learned that my local County Derry experience, which I had considered archaic and irrelevant to 'the modern world' was to be trusted. They taught me that trust and helped me to articulate it."[3] Mae ei ddwy gyfrol Death of a Naturalist (1966) a Door into the Dark (1969) yn ddisgrifiadau o fywyd pob dydd ei filltir sgwar.[3]
Disgrifiodd Robert Pinsky Heaney gan ddweud, "with his wonderful gift of eye and ear Heaney has the gift of the story-teller".[4] Galwodd Robert Lowell ef "the most important Irish poet since Yeats" a chafwyd sylwadau tebyg gan nifer o feirniaid llenyddol gan gynnwys yr awdur John Sutherland pan ddywedodd mai Heaney oedd "the greatest poet of our age".[2] Ar ei farwolaeth yn Awst 2013 disgrifiwyd ef yn yr Independent fel "probably the best-known poet in the world".[5]