Gwyddeleg

iaith

Mae Gwyddeleg (Gaeilge) yn iaith Geltaidd. Mae tua 1,800,000 o bobl yn Iwerddon yn siarad Gwyddeleg i raddau: 1,656,790 yng Ngweriniaeth Iwerddon (cyfrifiad 2006) a 167,487 yng Ngogledd Iwerddon (cyfrifiad 2001).

Gwyddeleg
Gaeilge
Siaredir ynGweriniaeth Iwerddon (1.77 miliwn)[1]
Y Deyrnas Unedig (95,000)
America (18,000)
Yr Undeb Ewropeaidd (iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd)
RhanbarthGaeltachtaí, ond siaredir ar draws Iwerddon gyfan
Cyfanswm siaradwyr391,470 rhugl neu siaradwyr brodorol (1983)[2]
Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae 1.77 miliwn o bobl (3 oed a throsodd) yn y Weriniaeth yn gallu siarad Gwyddeleg[1]
Teulu ieithyddolIndo-Ewropeaidd
System ysgrifennuLladin (Amrywiad ar yr Wyddeleg)
Statws swyddogol
Iaith swyddogol ynBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Baner Yr Undeb Ewropeaidd Yr Undeb Ewropeaidd
Iaith leiafrifol gydnabyddedig ynBaner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig -Gogledd Iwerddon
Rheoleiddir ganForas na Gaeilge
Codau ieithoedd
ISO 639-1ga
ISO 639-2gle
ISO 639-3gle
Wylfa Ieithoedd
Darlleniad Gyddeleg

Hanes

Datblygodd yr iaith Wyddeleg allan o iaith Geltaidd hynafol a elwir Goedeleg (arferir yr enw 'Celteg Q' yn ogystal; rhan o 'Gelteg P' oedd Brythoneg, rhagflaenydd y Gymraeg). Gaeleg a Manaweg ydyw'r ieithoedd Goedelaidd eraill. Maent yn fwy tebyg i'w gilydd nag ydyw'r Gymraeg i'r Gernyweg a'r Llydaweg. Bu ymfudo rhwng Iwerddon a gorllewin yr Alban am ganrifoedd, ac mae traddodiad llenyddol yr Wyddeleg a'r Aeleg yn tarddu o'r traddodiad Hen Wyddeleg ac orgraff y ddwy iaith yn rhannu nodweddion cyffredin. Fel yn achos y Gymraeg mae'n arfer rhannu hanes yr iaith yn dri chyfnod, sef Gwyddeleg Diweddar, Gwyddeleg Canol a Hen Wyddeleg.

Sefyllfa'r Wyddeleg yn 2007.

Sefyllfa heddiw

Mae'r Wyddeleg wedi cilio fel iaith gymunedol naturiol llawer mwy na'r Gymraeg, ond mae gan yr ardaloedd lle mae Gwyddeleg yn dal yn iaith lafar gymunedol gydnabyddiaeth swyddogol. Nifer o ardaloedd bach gwledig ydynt, wedi'u gwasgaru ar draws saith sir, a elwir gyda'i gilydd yn ardaloedd y Gaeltacht.

BlwyddynNifer y siaradwyr GwyddelegCanran y siaradwyr Gwyddeleg
18611,077,08724.5
1871804,54719.8
1881924,78123.9
1891664,38719.2
1901619,71019.2
1911553,71717.6
1926543,51118.3
1926540,80219.3
1936666,60123.7
1946588,72521.2
1961716,42027.2
1971789,42928.3
19811,018,41331.6
19861,042,70131.1
19911,095,83032.5
19961,430,20541.1
20021,570,89441.9
20061,656,79040.8
20111,774,43740.6

Sail: Iwerddon gyfan at 1926, y Weriniaeth ers hynny[3]

Rhai geiriau Gwyddeleg

  • - buwch
  • Fear / Duine - gŵr / dyn
  • Gealach - lleuad (lloer)
  • Grian - haul
  • Sliabh - mynydd
  • Trá - traeth
  • Maith - da
  • Glan - glân
  • Beag - bach
  • Mór - mawr
  • Leabhar - llyfr
  • Gorm - glas
  • Glas - gwyrdd
  • Dubh - du
  • Tine - tân
  • Am - amser
  • Aimsir - tywydd

Rhai Ymadroddion

  • Dia Dhuit - siwmai / sut mae?
  • Conas atá tú? - sut wyt ti? /sut ydych chi?
  • An-mhaith - da iawn
  • Go raibh maith agat - diolch
  • Mise freisin - finnau hefyd
  • B'fhéidir - efallai
  • Níl a fhios agam - Dw i ddim yn gwybod / Wn i ddim
  • Ba mhaith liom... - Hoffwn i...
  • Cad is ainm duit? - Beth yw'ch enw chi?
  • Seán is ainm dom - Fy enw i yw Seán
  • Is mise Seán - Seán wyf i
  • Le do thoil - os gwelwch yn dda
  • Ní thuigim - Dw i ddim yn deall
  • Nílim cinnte - Dw i ddim yn siŵr
  • Cá bhfuil an t-ostán? - Ble mae'r gwesty?
  • An dtuigeann tú Gaeilge?" - Wyt ti'n deall Gwyddeleg?
  • Tuigim beagán Gaeilge." - Rwy'n deall tipyn bach o Wyddeleg
  • Is breá liom.. - Rwy'n hoffi...
  • Tá sé fuar inniú - Mae hi'n oer heddiw.
  • Tá brón orm - Mae'n flin gyda fi / mae'n ddrwg gen i
  • Slán - Hwyl

Cymariaethau â Chymraeg

Y Rhifau

Y Storïwr Gwyddeleg a'i chwedlau gan J. E. Caerwyn Williams
Cymraegundautripedwarpumpchwechsaithwythnawdeg
Gwyddelegaontríceathaircúigseachtochtnaoideich

Rhagenwau

Cymraegfi/itife/ehinichinhw
Gwyddelegsé / ésí / ísinnsibhiad

Meddiant

Cymraegfy nhŷdy dŷei dŷei thŷein tŷeich tŷeu tŷ
Gwyddelegmo theachdo theacha theacha teachár dteachbhur dteacha dteach

Gw - F

Cymraeggŵrgwyngwellgwingwlybgwirgwangwyddbwyllgwylan
Gwyddelegfearfionn (golau)fearrfíonfliuchfíorfannficheallfaoileán

P - C

CymraegpapwypenpedwarpumpplantmabPasgpawbpren
GwyddelegcadceannceathaircúigclannmacCáisccáchcrann

H - S

Cymraeghaulhalenhafhenhynnyhi
Gwyddelegsúil (llygad)salannsamhradhseansin

Gweler hefyd

Wikipedia
Argraffiad Gwyddeleg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Chwiliwch am Gwyddeleg
yn Wiciadur.
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg
Brythoneg - (Celteg P)Goedeleg - (Celteg Q)
Cernyweg ·Cymraeg ·Llydaweg |Gaeleg ·Gwyddeleg ·Manaweg
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd