Acondroplasia

Mae Acondroplasia yn aml yn achosi corachedd. Mae'n digwydd fel mwtaniad[1] (neu 'drawsblygiad') ysbeidiol mewn tua 80% o achosion (yn gysylltiedig â rhieni hŷn) neu gellir ei etifeddu fel anhwylder genetig autosomal amlwg.

Acondroplasia
Enghraifft o'r canlynoldesignated intractable/rare disease, clefyd prin, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathosteochondrodysplasia, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Acondroplasia
Manylyn o Las Meninas gan Diego Velázquez (1656), yn dangos Maribarbola a Nicolasito Pertusato (dde), corachod acondroplastig yn entourage Infanta Margarita.
Enghraifft o'r canlynoldesignated intractable/rare disease, clefyd prin, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathosteochondrodysplasia, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae pobl sydd ag acondroplasia yn fyr, gyda chyfartaledd taldra'r oedolyn yn 131 cm (4.30 tr) i wyrywod a 123 cm (4.04 tr) i fenywod. Mae achosion o oedolion acondroplastig cyn fyrred â 62.8 cm (2.06 tr). Os yw'r ddau riant yn acondroplasig ac yn trosglwyddo'r genyn trawsblygol, yna mae'n annhebygol iawn y bydd y plentyn homosygaidd yn byw yn hwy nag ychydig fisoedd. Mae i'w weld mewn tua 1 o bob 25,000 o bobl.[2]

Gweler hefyd

  • Acondroplasia mewn plant
  • Rhestr o ddarganfyddiadau radiograffig sy'n gysylltiedig â chyflyrau cwenog

Cyfeiriadau