Afonfarch

Afonfarch
Statws cadwraeth

Bregus  (IUCN 3.1)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Mammalia
Urdd:Artiodactyla
Teulu:Hippopotamidae
Genws:Hippopotamus
Rhywogaeth:H. amphibius
Enw deuenwol
Hippopotamus amphibius
Linnaeus, 1758

Mamal yn perthyn i'r teulu Hippopotamidae yw'r afonfarch (hefyd hipopotamws neu dyfrfarch)[1] (Hippopotamus amphibius, o'r Roeg: 'ιπποπόταμος, hippopotamos). Yr unig aelod arall o'r teulu yw'r Afonfarch Bach.

Ceir yr Afonfarch yn Affrica i'r de o'r Sahara yn unig, ac mae wedi diflannu o lawer o diriogaethau yno. Mae'n byw o gwmpas afonydd a llynnoedd mewn grwpiau o hyd at 40 anifail, gan aros yn y dŵr yn ystod y dydd a dod allan i fwydo ar blanhigion yn y nos.

Ceir rhwng 125,000 a 150,000 ohonynt i gyd, y nifer fwyaf yn Sambia (40,000) a Thansanïa (20,000-30,000).

Filoedd o flynyddoedd yn ôl, cyn i'r hinsawdd newid, roedd afonfeirch i'w cael yng nghanol yr hyn sydd erbyn heddiw yn anialwch y Sahara: ceir darluniau cynhanesyddol ohonynt ar furiau ogofâu yn y Tassili n'Ajjer.

Gweler hefyd

  • Afonfarch pigmi

Cyfeiriadau