Asurfaen

Glain purlas yw asurfaen neu Lapis lazuli a werthfawrogwyd ers dyddiau'r Henfyd am ei liw arddwys neu lachar.[1] Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol, fe'i mewnforid i Ewrop.

Asurfaen
Mathcraig fetamorffig Edit this on Wikidata
Lliw/iauglas Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Asurfaen o Affganistan yn ei ffurf gynhenid

Fe'i mwyngloddiwyd ers y 7g yng ngogledd-ddwyrain Affganistan ac mae'r fan honno'n dal i fod yn ffynhonnell bwysig o asurfaen. Daw cryn dipyn, hefyd, o fwyngloddiau i'r gorllewin o Lyn Baikal yn Rwsia a mynyddoedd yr Andes yn Tsile. Mwyngloddir rhywfaint ohono hefyd yn yr Eidal, Mongolia, yr UDA a Chanada.[2]

Cyfansoddiad

Pif gyfansoddyn mwynol asurfaen yw laswrit (lazurite)[3] (25%-40%) a ddiffinir gyda'r fformiwla cemegol (Na,Ca)8[(S,Cl,SO4,OH)2|(Al6Si6O24)].

Hanes

Mae asurfaen wedi'i fwyngloddio yn Affganistan a'i allforio oddi yno i wledydd Môr y Canoldir a De Asia ers yr oes Neolithig.[4] Cyflwynwyd asurfaen i'r Aifft hynafol o Fôr y Canoldir, a daeth yn rhan boblogaidd, maes o law, o addurniadau a gemwaith megis sgarabau. Crybwyllir asurfaen sawl gwaith yn y gerdd Fesopotamaidd Epig Gilgamesh, sef un o weithiau llenyddol hynaf y byd.

Ceir cyfeiriadau lu i saffir yn yr Hen Destament, ond mae ysgolheigion yn gytûn y cyfeirir at asurfaen pan sonnir am saffir am nad oeddent yn hysbys i'r Ymerodraeth Rufeinig bryd hynny.[5]

Cyfeiriadau