Atomfa

Atomfa ydy'r enw sy'n cael ei roi ar yr adeilad lle holltir yr atom (fel arfer wraniwm-235 neu plwtoniwm-239). Ceir adweithydd niwclear ym mhob atomfa, wedi'i amgylchynnu gan ddŵr sy'n cael ei gynhesu gan adwaith cadwyn rheoledig a'r stêm, yn ei dro, yn gyrru tyrbeins.

Atomfa
Mathgorsaf bŵer, nuclear facility Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAdweithydd niwclear, steam turbine, electric generator, Newidydd Edit this on Wikidata
Cynnyrchtrydan, Gwastraff niwclear Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Atomfa Trawsfynydd ar lan Llyn Trawsfynydd

Agorwyd atomfa cyntaf y byd sef Obninsk yn yr Undeb Sofietaidd Atomfa yn 1954 fel arbrawf, ac ar y cychwyn cynhyrchodd tua 5 MW o drydan y flwyddyn. Y cyntaf i wneud hynny'n fasnachol oedd Calder Hall, Windscale, Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yn 1956. Fe'i hagorwyd ar 27 Awst 1956 gan greu 50 MWe o drydan ar y cychwyn ac yna 200 MW. Defnyddiai bedwar adweithydd Magnox 50 MWe yr un. Flwyddyn yn ddiweddarach agorwyd yr atomfa gyntaf yn America sef Adweithydd Shippingport ym Mhensylfania yn Rhagfyr 1957).

Cymru

Yng Nghymru ceir dwy atomfa: Wylfa (Môn) a geuodd yn 2010 a Thrawsfynydd a ddechreuodd ar y gwaith dadgomisiynu yn 1991.

Dechreuwyd adeiladu Atomfa Wylfa yn 1963 a dechreuodd gynhyrchud trydan yn 1971 ac roedd yno ddwy adweithydd Magnox (490 MW). Dyma'r mwyaf a'r olaf o'i fath yng ngwledydd Prydain. Bydd yn dod i ben ar ddiwedd 2010.

Ceir atomfa hefyd yn Nhrawsfynydd, ond ers 1991 mae wedi dechrau cael ei ddadgomisiynu. Dechreuwyd ar y gwaith o'i adeiladu ym Mawrth 1965 a dechreuodd ar gynhyrchu trydan yn Hydref 1968. Roedd ganddo ddwy adweithydd Magnox ac roedd yn cynhyrchu 470MW o drydan.

Damweiniau

-
DyddiadLleoliadDisgrifiadCost
(mewn miliynau
2006 $)
22 Chwefror 1977Jasłovske Bohunice, y Wladwriaeth CzechYr adwaith yn erydu'n ddifrifol gan ryddhau ymbelydredd oddi fewn i adeiladau'r atomfa gan orfodi ei dadgomisiynnuUS$1,700
28 Mawrth 1979Middletown, Pennsylvania, UDAYr hylif oeri yn gollwng a'r adweithydd yn creu toddiad niwclear (Three Mile Island)US$2,400
9 Mawrth 1985Athens, Alabama, UDAMesuryddion yn torri i lawr wrth danio gan beri i bob un o'r tri adweithydd i gael eu gohirio 'Browns Ferry Nuclear Power Plant'US$1,830
11 Ebrill 1986Plymouth, Massachusetts, UDAProblemau gyda'r offer gan orfodi cau'r atomfa 'Pilgrim Nuclear Power Plant' Boston Edison'sUS$1,001
26 Ebrill 1986Kiev, UkraineFfrwydriad stem a hunan-losgi ('meltdown') gan achosi 4,056 marwolaeth (gweler Trychineb Chernobyl) a symud 300,000 o bobl o Kiev; lledaenodd llawer o'r deunydd ymbelydrol ledled Ewrop gan y gwynt )US$6,700
31 Mawrth 1987Delta, Pennsylvania, UDAProblemau gyda'r systemau oeri ac offerUS$400
24 Tachwedd 1989Greifswald, Gorllewin yr AlmaenDiffyg trydanol yn achosi tânUD$443
2 Medi 1996Crystal River, Fflorida, UDADiffyg yn yr offer 'Balance-of-plant' yn gorfodi cau'r atomfa er mwyn ei thrwsio yn 'Crystal River 3 Nuclear Power Plant'US$384
1 Chwefror 2010Montpelier, Vermont, UDAPibellau tanddaearol yn byrstio yn y 'Vermont Yankee Nuclear Power Plant' ac yn colli tritiwm ymbelydrol i'r cyflenwad dŵr.US$10 [2]
Gwanwyn 2011Fukushima, JapanDamwain yn dilyn Tswnami Japan lle gwelwyd 4 adweithydd yn gorboethi.Dim amcangyfrif real wedi'i ddarparu.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Chwiliwch am atomfa
yn Wiciadur.