Belffast

dinas yn Iwerddon
(Ailgyfeiriad o Belfast)

Belffast (Gwyddeleg: Béal Feirste;[1] Saesneg: Belfast) yw dinas fwyaf a phrifddinas Gogledd Iwerddon. Mae dros hanner miliwn o bobol yn byw yn ardal Belffast. Mae'n borthladd ar lannau Afon Lagan lle mae'r afon honno'n llifo i Lough Belffast, ar y ffin rhwng Swydd Antrim a Swydd Down. Mae'n gartref i iard longau Harland and Wolfe ac yn brif ganolfan diwydiannol y dalaith. Ym Melffast ceir prif adeiladau gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon, gan gynnwys Neuadd Dinas Belffast (1906) ac Adeilad y Senedd (Stormont) (1932). Rhoddwyd ei siarter i Brifysgol y Frenhines ym 1909.

Belffast
ArwyddairPro Tanto Quid Retribuamus? Edit this on Wikidata
Mathdinas, dinas fawr, prifddinas, y ddinas fwyaf Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Farset Edit this on Wikidata
De-Belfast.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth345,006 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBonn, Hefei, Guadalajara Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArdal Belffast Edit this on Wikidata
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Arwynebedd114.995472 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.5964°N 5.93°W Edit this on Wikidata
Map
Prifysgol y Frenhines, Belffast

Am flynyddoedd roedd yr enw 'Belffast' bron yn gyfystyr â 'Helyntion Gogledd Iwerddon', gyda'r ddinas a'i chymuned wedi'u rhannu ar linellau ethnig a chrefyddol. Lladdwyd rhai cannoedd o bobl ar ei strydoedd rhwng dechrau'r 1970au a'r 1990au.

Yr Helyntion

Cafodd dros 1,600 o bobl eu lladd yn ystod Yr Helyntion, trais gwleidyddol yn y ddinas rhwng 1969 a 2001.

Adeiladau a chofadeiladau

Enwogion

  • C. S. Lewis (1898-1963), awdur
  • Siobhán McKenna (1923–1986), actores
  • Frank Carson (g. 1928), comediwr
  • Heather Harper (g. 1930), cantores
  • James Galway (g. 1939), cerddor
  • Van Morrison (g. 1945), canwr
  • Gerry Adams (g. 1948), gwleidydd
  • Alex Higgins (g. 1949), chwaraewr snwcer
  • Syr Kenneth Branagh (g. 1960), actor
  • John Stewart Bell, ffisegydd
  • George Best, chwaraewr pel-droed, ennilydd Ballon D'or
  • Danny Blanchflower, chwaraewr pêl-droed a rheolwr
  • Dave Finlay, restlwr
  • Jackie Blanchflower chwaraewr pel-droed
  • Sir Kenneth Branagh, actor
  • Christopher Brunt, chwaraewr pel-droed
  • Dame Jocelyn Bell Burnell, astroffisegydd
  • Patrick Carlin, derbynnydd Croes Fictoria
  • Ciaran Carson, ysgrifenwyr
  • Frank Carson, comediwr
  • Craig Cathcart, chwaraewr pel-droed
  • Shaw Clifton, cadfridog Byddin yr Iachawdwriaeth
  • Lord Craigavon, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon
  • Mal Donaghy, chwaraewr pel-droed
  • Jamie Dornan, actor
  • Barry Douglas, cerddor
  • John Boyd Dunlop, dyfeisiwr
  • Jonny Evans, chwaraewr pel-droed
  • Corry Evans, chwaraewr pel-droed
  • Carl Frampton, paffiwr
  • Sir James Galway, cerddor
  • Craig Gilroy, chwaraewr rygbi
  • Chaim Herzog, cyn-arlywydd Israel
  • Alex Higgins, chwaraewr snwcr
  • Eamonn Holmes, darlledwr
  • Brian Desmond Hurst, cyfarwyddwr ffilm
  • Paddy Jackson, chwaraewr rygbi
  • Oliver Jeffers, artist
  • Dame Rotha Johnston, mentergarwr
  • Lord Kelvin, ffisegydd a pheirianydd
  • James Joseph Magennis, derbynnyddd Croes Fictoria
  • Jim Magilton, chwaraewr pêl-droed a rheolwr
  • Paula Malcomson, actores
  • Mary McAleese, cyn-arlywydd Iwerddon
  • Gerry McAvoy, cerddor
  • Tony McCoy, joci rasys ceffylau
  • Wayne McCullough, athletwr
  • Alan McDonald, chwaraewr pel-droed
  • Rory McIlroy, golffiwr
  • Sammy McIlroy, chwaraewr pêl-droed a rheolwr
  • Gary Moore, gitarydd
  • Van Morrison, canwr-cyfansoddwr
  • Doc Neeson, canwr-cyfansoddwr
  • Dame Mary Peters, athletwr Olympaidd
  • Patricia Quinn, actores
  • Pat Rice, chwaraewr
  • Trevor Ringland, chwaraewr rygbi
  • Peter Robinson, gwleidydd
  • Mark Ryder, actor
  • Jonathan Simms, dioddefwr clefyd Creutzfeldt-Jakob Disease
  • David Trimble, gwleidydd
  • Gary Wilson, cricedwr
  • Roy Walker, cyflwynydd teledu

Chwaraeon

Mae'r ddinas yn gartref i dîm rygbi Ulster sy'n chwarae yn y Pro14. Maent yn chwarae yn Stadiwm Kingspan.

Lleolir nifer o brif dimau pêl-droed Gogledd Iwerddon a chlybiau hynaf y gamp yn yr holl ynys yn y ddinas. Yn eu mysg mae Cliftonville F.C..

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.