Croes Fictoria

Y Groes Fictoria (VC) yw'r addurn milwrol uchaf sy'n cael ei gyflwyno am wroldeb "yng ngŵydd y gelyn" i aelodau'r lluoedd arfog yng ngwledydd y Gymanwlad a chyn diriogaethau'r Ymerodraeth Brydeinig[1]. Mae'r VC yn cael blaenoriaeth ar unrhyw urdd, anrhydedd neu fedal arall. Gall person o unrhyw reng milwrol yn unrhyw un o'r lluoedd arfog, yn ogystal ag unrhyw aelod sifil sy'n gweithio o dan reolaeth milwrol, ennill y VC[1].

Croes Fictoria
Enghraifft o'r canlynolgwobr militaraidd, gwobr am ddewrder, cross Edit this on Wikidata
Mathanrhydeddau a medalau milwrol y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Deunyddefydd Edit this on Wikidata
Label brodorolVictoria Cross Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu29 Ionawr 1856 Edit this on Wikidata
SylfaenyddFictoria, brenhines y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Enw brodorolVictoria Cross Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hanes

Cyflwynwyd y VC am y tro cyntaf ar 29 Ionawr 1856 gan Brenhines Fictoria er mwyn anrhydeddu gweithredoedd arwrol yn ystod Rhyfel y Crimea. Cyn hyn dim ond swyddogion oedd yn gymwys i dderbyn yr anrhydedd uchaf, sef Urdd y Baddon. Roedd nifer o wledydd Ewropeaidd yn cyflwyno anrhydeddau nad oedd yn gwahaniaethau ar sail eu rheng nag ar sail dosbarth cymdeithasol; roedd gan Ffrainc y Légion d'honneur (Lleng Anrhydedd) ac roedd Yr Iseldiroedd yn cyflwyno Militaire Willems-Orde (Urdd William).

Cafwyd y seremoni cyntaf ar 26 Mehefin 1857 wrth Frenhines Fictoria urddo 62 o'r 111 milwr o Ryfel y Crimea yn Hyde Park, Llundain. Bellach, mae'r fedal wedi ei chyflwyno 1,358 o weithiau i 1,355 o unigolion. Dim ond 15 medal sydd wedi eu cyflwyno ers Yr Ail Ryfel Byd, 11 i aelodau Byddinoedd Prydain a phedwar i aelodau Byddinoedd Awstralia.

Credir fod y medalau wedi eu bathu o fetal canon Rwsiaidd a gafodd ei gipio yn ystod Gwarchae Sevastopol, ond mae ymchwil diweddar yn awgrymu mai canonau Tsieneiaidd yw tarddiad metal nifer ohonynt[2].

Edrychiad

Mae'r addurn yn groes pattée efydd, 41mm (1 39/64") o uchder, 36mm (1 27/64") o led, yn dangos coron Sant Edward gyda llew uwchben a chyda'r arysgrif FOR VALOUR. Y geiriau FOR THE BRAVE oedd i fod i ymddangos yn wreiddiol hyd nes i'r Frenhines Fictoria ofyn am y newid rhag awgrymu nad oedd pob person mewn brwydr yn ymddwyn yn ddewr[3]. Mae'r addurn, y bar crog a'r ddolen yn pwyso tua 27g (0.87owns)[4]

Mae'r groes wedi ei chrogi ar gylch sy'n cysylltu â "V" ar far sydd wedi'i haddurno â dail llawryf. Ar gefn y bar, llae mae'r rhuban yn cael ei bwydo, ceir enw, rheng, rhif ac uned y derbynnydd[5]. Ar gefn y medal mae panel crwn lle torrir dyddiad y weithred arwrol[5].

Mae'r rhuban yn rhuddgoch, 38mm (1 1/2") o led. Yn wreiddiol (1856) roedd y rhuban i fod yn goch i aelodau'r fyddin ac yn las tywyll i aelodau'r llynges, ond diddymwyd y rhuban glas tywyll wedi ffurfio'r Llu Awyr Brenhinol ar 1 Ebrill 1918. Ar 22 Mai 1920 arwyddodd Sior V warant yn cyhoeddi y byddai pob derbynnydd o hyn ymlaen yn derbyn rhuban coch a bod angen i pob aelod o'r llynges oedd eisoes wedi derbyn VC i gyfnewid eu rhuban glas tywyll am un coch[6].

Er fod gwarantau'r fyddin yn datgan mai "coch" yw lliw y rhuban, fe'i ddigrifiwyd yn swyddogol fel rhuban "rhuddgoch".[7]

Deiliaid Cymreig

James Hill Johnes, VC yn ymosod ar y gelyn (paentiad olew gan James Nowlan, 1893, o gasgliad LlGC)

Nid oes modd dod i gasgliad pendant am y nifer o Gymry sydd wedi eu hurddo â'r VC gan fod nifer o filwyr di-Gymraeg gyda chatrawdau Cymreig a hefyd nifer o filwyr di-Gymraeg oedd yn byw yng Nghymru wedi eu cynnwys gan sawl cyfeirlyfr ymysg y rhestrau o Gymry gafodd eu hurddo. Syr Hugh Rowlands oedd y Cymro cyntaf i gael ei urddo yn dilyn gweithred yn ystod Rhyfel y Crimea, er i Robert Shields o Gaerdydd - yr ail Gymro i gael ei urddo - dderbyn ei fedal cyn Syr Hugh.

Yr un weithred filwrol y mae pawb yn ystyried ei fod yn Gymreig yw'r amddiffyniad o Rorkes Drift yn ystod Rhyfel y Zulu ym 1879 - lle enillwyd 11 VC gan aelodau o gartrawd Cyffinwyr De Cymru ac a anfarwolwyd yn y ffilm Zulu ond dim ond tri o'r unarddeg sy'n cael eu hystyried yn Gymry, bellach.

Dyma restr o rai o'r Cymry sydd wedi eu hanrhydeddu trwy ddyfarnu Croes Fictoria iddynt[8][9]

(Mae'r rhestr yn anghyflawn gellir helpu Wicipidia trwy ychwanegu ato)

EnwBlwyddynRhyfelBrwydrGwlad
Syr Hugh Rowlands1857Rhyfel y CrimeaInkermanRwsia
Robert Shields1857Rhyfel y CrimeaSesbastopolRwsia
Jacob Thomas1857Gwrthryfel IndiaRhyddhad LucknowIndia
James Hills-Johnes1857Gwrthryfel IndiaGwarchae DelhiIndia
William Wilson Allen1879Rhyfeloedd y ZuluRorke's DriftDe'r Affrig
Robert Jones1879Rhyfeloedd y ZuluRorke's DriftDe'r Affrig
John (Fielding) Williams1879Rhyfeloedd y ZuluRorke's DriftDe'r Affrig
Llewellyn Alberic Emilius Price-Davies1901Rhyfel y BoerBlood RiverDe'r Affrig
Frederick Barter1915Y Rhyfel Byd CyntafFestubertFfrainc
Robert James Bye1917Y Rhyfel Byd CyntafYser CanalGwlad Belg
James Llewellyn Davies1917Y Rhyfel Byd CyntafPolygon WoodGwlad Belg
Lewis Pugh Evans1917Y Rhyfel Byd CyntafZonnebekeGwlad Belg
William Charles Fuller1914Y Rhyfel Byd CyntafChivy-sur-AisneFfrainc
Hubert William Lewis1916Y Rhyfel Byd CyntafMacukovoGwlad Groeg
Ivor Rees1917Y Rhyfel Byd CyntafPilkemGwlad Belg
Lionel Wilmot Brabazon Rees1916Y Rhyfel Byd CyntafDouble CrassieursFfrainc
John Fox Russell1917Y Rhyfel Byd CyntafTel-el-KhuweilfehPalesteina
Richard William Leslie Wain1917Y Rhyfel Byd CyntafCambrai/MarcoingFfrainc
William Herbert Waring1918Y Rhyfel Byd CyntafRonssoyFfrainc
Henry Weale1918Y Rhyfel Byd CyntafBazentin-le-GrandFfrainc
John Henry (Jack) Williams1918Y Rhyfel Byd CyntafVillers OutreauxFfrainc
William Williams1917Y Rhyfel Byd CyntafYr IweryddFfrainc
Bernard Armiage Warburton-Lee1940Yr Ail Ryfel BydOfot FjordNorwy
John Wallace Linton1943Yr Ail Ryfel BydHMS TurbulentMor y Canoldir
Tasker Watkins1944Yr Ail Ryfel BydFalaiseFfrainc
Edward Thomas Chapman1945Yr Ail Ryfel BydTeutoburger WaldYr Almaen

Cyfeiriadau