Canabis

Mae'r erthygl yma am y planhigyn Cannabis, am y defnydd seicowethredol gweler Cannabis (cyffur), am y defnydd meddygol gweler Cannabis (meddygol) ac am y defnydd ddi-gyffuriau gweler Cywarch.
Cannabis
Darluniau o blanhigyn Cannabis
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Plantae
Ddim wedi'i restru:Angiosbermau
Ddim wedi'i restru:Ewdicotau
Ddim wedi'i restru:Rosidau
Urdd:Rosales
Teulu:Cannabaceae
Genws:Cannabis
L.
Rhywogaethau

Cannabis sativa L.
Cannabis indica Lam.
Cannabis ruderalis Janisch.

Mae Cannabis (Lladin fotanegol: Cán-na-bis) yn genws o blanhigyn blodeuol sy'n cynnwys tri rhywogaeth: Cannabis sativa, Cannabis indica a Cannabis ruderalis Janisch. Mae'r dair rywogaeth yn frodorol o ganolbarth Asia a'r ardaloedd o'i hamgylch.[1]

Cynhyrchwyd cywarch ac olew cywarch ers canrifoedd gan ddefnyddio plangigion Cannabis wedi'u dewis er mwyn cynhyrch cyn gymaint o ffibr a phosib gyda chyn lleied o lefelau o THC9- tetrahydrocannabinol), un o'r molecylau seicoweithredol sy'n cynhyrchu'r high sy'n gysylltiedig â marijuana. Caiff y cyffur cannabis ei gynhyrchud o'r planhigyn yn ogystal a'r fersiwn meddygol a ddefnyddir i atal poen. Mae'r cyffur yn cynnwys blodau a dail wedi'u sychu, o blanhigion wedi eu dewis i gynhyrchu lefelau uchel o TCH. Cynhyrchir hefyd nifer o echdynion yn cynnwys hashish ac olew hash.[2] Mae tyfu a meddiannau Cannabis ar gyfer defnydd hamddenol yn anghyfreithlon yn rhanfwyaf o wledydd y byd.

Yn fyd-eang yn 2013, cynhyrchwyd 60,400 cilogram o gannabis cyfreithiol.[3] Yn 2013 credir fod rhwng 128 a 232 miliwn o bobl wedi defnyddio cannabis er mwyn difyrru eu hunain (2.7% - 4.9% o boblogaeth y byd rhwng 15 a 65 oed.[4]

Disgrifiad

Planhigyn blynyddol deuoecaidd yw cannabis, sydd hefyd yn berlysieuyn blodeuol. Mae'r dail yn sgleiniog ac ar ffurf dail palmwydd, danheddog.[5] Ceir 7 - 13 isddeilen ar bob gwir ddeilen.

Ochr isaf deilen Cannabis sativa gyda'r gwythiennau i'w gweld.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau