Carfilod
Carfilod Alcidae | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teiprywogaeth | |
Alca torda Linnaeus, 1758 | |
Subfamilies | |
|
Teulu neu grŵp o adar ydy'r Carfilod (enw gwyddonol neu Ladin: Alcidae).[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Charadriiformes.[2][3]
Maen nhw'n debyg i bengwiniaid ond maen nhw'n gallu hedfan. Maen nhw'n nofwyr a deifwyr ardderchog.[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Charadriiformes.[2][3]
Gan fod lleoliad rhywogaethau, genera a theuluoedd yn newid yn eithaf aml o fewn y safle tacson, yn enwedig o ganlyniad i ymchwil DNA, gall y dosbarthiad hwn hefyd newid.
Teuluoedd eraill o adar
Yn ôl IOC World Bird List ceir 240 teulu (Mawrth 2017) sy'n fyw heddiw (nid ffosiliau):
Geirdarddiad
Ai’r carfil mawr (aderyn di-adain a aeth i ddifodiant) oedd y “penguin” cyntaf ac ai morwyr Cymraeg a’i henwodd ar ôl y pen gwyn, neu'r clytyn gwyn o leiaf? Mae cwestiwn arall yn codi ynglŷn ag enw’r aderyn hwn - sef, o ble daeth yr enw diweddarach arno (os "pen gwyn" oedd o yn wreiddiol i'r Cymru), sef carfil? Yr enw arno yn yr Alban oedd gairfowl. Dyma ddywed yr Oxford English Dictionary am y gair hwn:
- Etymology: < Old Norse geir-fugl = Faroese gorfuglur, Swedish garfogel, Danish (from Icelandic) geirfugl. Hence also Gaelic gearbhul garefowl, and French gorfou a sort of penguin. The meaning of the first part of the compound is uncertain.
Gair o Hen Nors yw gairfowl felly, a aeth i’r Gaeleg fel gearbhui. Cofnod y teithiwr Martin Martin yn 1698 yw cofnod cyntaf y gair. Tybed ai ymdrech Martin i ynganu hwn esgorodd ar y ffurf gairfowl?
Dyma ddywed Geiriadur Prifysgol Cymru am etymoleg y gair carfil:
- carfil, carfyl [elf. anh. + S. bill ...ni welais i un carfil na phwffingen ML
O arall-eirio hwn cawn: “yn llythyrau Morrisiaid Món (1728-65) mae’r cyfeiriad cyntaf at carfil. Mae dwy elfen i’r gair, sef car- (elfen o dras anhysbys) a -fil (sef Cymreigiad o’r Saesneg bill)”.
Yn absenoldeb tystiolaeth terfynol o darddiad y gair hwn, gallwn ddamcaniaethu mai ffurf ar gairfowl yw carfil, ac mai’r carfil mawr oedd y carfil cyntaf i ddwyn yr enw. Mae’r enw gyda ni o hyd yn y gair am y little auk, y carfil bach, sydd, yn wahanol i’w frawd mawr, yn ffynnu o hyd ym mharthau’r gogledd ac yn niferus yno yn ystod ac ar ôl tywydd stormus.
Teuluoedd |
---|
Adar Asgelldroed •Adar Dail •Adar Deildy •Adar Dreingwt •Adar Drudwy •Adar Ffrigad •Adar Gwrychog •Adar Haul •Adar Morgrug •Adar Olew •Adar Paradwys •Adar Pobty •Adar Tagellog •Adar Telyn •Adar Tomen •Adar Trofannol •Adar y Cwils •Albatrosiaid •Apostolion •Asitïod •Barbedau •Brain •Brain Moel •Breision •Brenhinoedd •Brychion •Bwlbwliaid •Cagwod •Carfilod •Casowarïaid •Ceiliogod y Waun •Ceinddrywod •Chwibanwyr •Ciconiaid •Ciconiaid Pig Esgid •Cigfachwyr •Cigyddion •Ciwïod •Cnocellod •Coblynnod •Coblynnod Coed •Cocatwod •Cogau •Cog-Gigyddion •Colïod •Colomennod •Copogion •Copogion Coed •Cornbigau •Corsoflieir •Cotingaod •Crehyrod •Crehyrod yr Haul •Cropwyr •Crwydriaid y Malî •Cwrasowiaid •Cwroliaid •Cwtiaid •Cwyrbigau • |
Seriemaid •Cynffonau Sidan •Delorion Cnau •Dreinbigau •Dringhedyddion •Dringwyr Coed •Dringwyr y Philipinau •Drongoaid •Drywod •Drywod Seland Newydd •Ehedyddion •Emiwiaid •Eryrod •Estrysiaid •Eurynnod •Fangáid •Ffesantod •Fflamingos •Fireod •Fwlturiaid y Byd Newydd •Garannod •Giachod Amryliw •Gïachod yr Hadau • |
Golfanod •Gwanwyr •Gwatwarwyr •Gweilch Pysgod •Gweinbigau •Gwenoliaid •Gwenynysorion •Gwyachod •Gwybed-Ddaliwyr •Gwybedogion •Gwybedysyddion •Gwylanod •Gylfindroeon •Hebogiaid •Helyddion Coed •Hercwyr •Hirgoesau •Hirgoesau Crymanbig •Hoatsiniaid •Huganod •Hwyaid •Ibisiaid •Ieir y Diffeithwch •Jacamarod •Jasanaod •Llwydiaid •Llydanbigau •Llygadwynion •Llygaid-Dagell •Llysdorwyr •Lorïaid •Manacinod •Meinbigau •Mel-Gogau • |
Mêl-Gropwyr Hawaii •Melysorion •Mesîtau •Motmotiaid •Mulfrain •Parotiaid •Pedrynnod •Pedrynnod •Pedrynnod Plymio •Pelicanod •Pengwiniaid •Pennau Morthwyl •Pibyddion •Pigwyr Blodau •Pincod •Piod Môr •Pitaod •Potwaid •Preblynnod •Prysgadar •Pysgotwyr •Rheaod •Rhedwyr •Rhedwyr •Rhedwyr y Crancod •Rhegennod •Rhesogion y Palmwydd •Rholyddion •Rholyddion Daear •Robinod Awstralia • |
Seriemaid •Sgimwyr •Sgiwennod •Sgrechwyr •Sïednod •Siglennod •Tapacwlos •Teloriaid •Telorion y Byd Newydd •Teyrn-Wybedogion •Tinamwaid •Titwod •Titwod Cynffonhir •Titwod Pendil •Todiaid •Tresglod •Trochwyr •Trochyddion •Troellwyr •Troellwyr Llydanbig •Trogoniaid •Trympedwyr •Twcaniaid •Twinc Banana •Twracoaid •Tylluan-Droellwyr •Tylluanod •Tylluanod Gwynion • |