Carw Llychlyn

Carw Llychlyn
Amrediad amseryddol: Pleistosen – presennol
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Mammalia
Urdd:Artiodactyla
Teulu:Cervidae
Genws:Rangifer
C. H. Smith, 1827
Rhywogaeth:R. tarandus
Enw deuenwol
Rangifer tarandus
(Linnaeus, 1758)

Carw o ranbarthau arctig ac is-arctig y byd yw carw Llychlyn (Rangifer tarandus), hefyd caribŵ, carw Canada neu garw Lapdir. Mae'n byw mewn twndra, mynyddoedd a choedwigoedd yn Llychlyn, Rwsia, Alaska, Canada a'r Ynys Las.[1] Diflannodd y carw o Brydain yn ystod y cyfnod Mesolithig ond mae wedi cael ei ailgyflwyno i'r Cairngorms yn yr Alban.[2]

Mae'n 94–127 cm o daldra ac mae'n pwyso 91–272 kg.[1] Mae ei ffwr yn frown yn ystod yr haf ac yn llwyd yn y gaeaf.[1]

Mae wedi cael ei dofi gan nifer o bobloedd yr Arctig megis y Sami sy'n defnyddio'r cig, llaeth a chroen.[1] Mewn llên gwerin, mae carw Llychlyn yn enwog am tynnu sled Siôn Corn.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.