Cetamin
Mae cetamin, sy’n cael ei werthu dan yr enw brand Ketalar ymysg eraill, yn feddyginiaeth a ddefnyddir yn bennaf i ddechrau a chynnal anesthesia.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₃H₁₆ClNO. Mae cetamin yn gynhwysyn actif yn Zetamine, Ketaved, Vetaket, Ketaject, Ketaset a Ketathesia .
Enghraifft o'r canlynol | par o enantiomerau |
---|---|
Math | cyfansoddyn cemegol |
Màs | 237.092042 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₁₃h₁₆clno |
Enw WHO | Ketamine |
Clefydau i'w trin | Poen, camddefnyddio sylweddau |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia b3, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
Rhan o | response to ketamine |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnydd meddygol
Mae cetamin fel rhan o ddarpariaeth anesthetig yn ysgogi cyflwr tebyg i lesmair wrth ddarparu rhyddhad rhag poen, tawelyddiad, a cholli cof. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i drin poen cronig ac ar gyfer tawelyddiad mewn gofal dwys[2][3]. Yn gyffredinol, mae swyddogaethau'r galon, y system anadlu ac adweithiau'r llwybr awyr yn parhau i fod yn weithredol yn ystod ei effeithiau. Fel rheol, bydd yr effeithiau'n dechrau o fewn pum munud pan weinir trwy bigiad gyda'r prif effeithiau yn para hyd at 25 munud.
Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Enwau
Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Cetamin, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Sgil effeithiau
Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys adweithiau seicolegol wrth i'r prif effeithiau gwanhau. Gallai'r adweithiau hyn gynnwys cynnwrf, dryswch a rhithweledigaethau. Mae pwysedd gwaed uchel a chryndod y cyhyrau yn gymharol gyffredin, tra bod pwysedd gwaed isel a gostyngiad yn y gallu i anadlu yn llai cyffredin. Yn achlysurol iawn gall gwaew'r laryncs yn digwydd[4].
Hanes
Darganfuwyd cetamin ym 1962, a brofwyd gyntaf ymhlith pobl ym 1964. Cafodd ei gymeradwyo i'w ddefnyddio yn yr Unol Daleithiau ym 1970. Yn fuan wedi ei gymeradwyo gan yr Unol Daleithiau, fe'i defnyddiwyd yn helaeth ar gyfer anesthesia llawfeddygol yn Rhyfel Fietnam. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.
Defnydd milfeddygol
Caiff cetamin ei ddefnyddio'n aml fel anaesthetig a phoenliniarydd ar gathod, cŵn, cwningod, llygod mawr, ac anifeiliaid bach eraill. Fe'i defnyddir yn helaeth mewn cynefino a chynhaliaeth anesthetig mewn ceffylau[5].
Defnydd hamddenol
Mae cetamin hefyd yn cael ei ddefnyddio fel cyffur hamdden anghyfreithiol[6]. Yn y Deyrnas Unedig, fe'i labelwyd yn gyffur Dosbarth C ar 1 Ionawr 2006. Ar 10 Rhagfyr 2013, argymhellodd Cyngor Ymgynghorol y DU ar Gamddefnyddio Cyffuriau (ACMD) i'r llywodraeth ail-ddosbarthu cetamin i fod yn gyffur Dosbarth B, ac ar 12 Chwefror 2014 cyhoeddodd y Swyddfa Gartref y byddent yn dilyn yr argymhelliad "yng ngoleuni'r dystiolaeth o ddamweiniau cronig sy'n gysylltiedig â defnyddio cetaminau, gan gynnwys difrod cronig i'r bledren a rhannau eraill o'r llwybr wrinol"
Fel cyffur hamddenol mae'n cael ei hadnabod wrth yr enwau "y grintach werdd", "rockmesc", "K", "Citi", "Kallie Ziltz", "Cet", "Special K", "K2", "Fitamin K", "Super K", "Piws", "Skittles", "olew mêl" ac enwau eraill. Wedi ei gymysgu a chocên mae'n cael ei alw'n "CK" neu "Calvin Klein".
Cyfeiriadau
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |