Clefyd Crohn

Mae clefyd Crohn[1] yn fath o glefyd llid y coluddyn a allai effeithio ar unrhyw ran o'r llwybr gastroberfeddol o'r geg i'r anws.

Clefyd Crohn
Enghraifft o'r canlynoldesignated intractable/rare disease, clefyd prin, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd llid y coluddyn, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauPoen yn yr abdomen, y dwymyn, anorecsia, rectal tenesmus, dolur rhydd, colli pwysau, rhwymedd, fistula, poen yn y cymalau, aphthous stomatitis, briw, llid y deintgig, blinder meddwl edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Prif leoliad clefyd Crohn

Symptomau

Mae arwyddion a symptomau clefyd Crohn yn aml yn cynnwys poen yr abdomen, dolur rhydd (a all fod yn waedlyd os yw'r llid yn ddifrifol), twymyn a cholli pwysau. Gall cymhlethdodau eraill ddigwydd y tu allan i'r llwybr gastroberfeddol gan gynnwys anemia, brechau croen, gwynegon, llid ar y llygaid, a blinder.  Gall y brechau croen fod o ganlyniad i heintiau yn ogystal â pyoderma gangrenosum neu erythema nodosum. Mae rhwystrau yn y coluddyn yn digwydd yn aml ac mae'r rheiny sydd â'r clefyd mewn mwy o berygl o ddatblygu canser y coluddyn[2].

Achos

Er nad yw'r union beth sy'n achosi clefyd Crohn yn wybyddus credir ei fod yn gysylltiedig â ffactorau amgylcheddol, imiwnedd, a bacteriol mewn pobl sydd â thueddiadau genetig ffafriol i'r clwyf [3][4][5]. Mae'n arwain at anhwylder llidiol cronig, lle mae system imiwnedd y corff yn ymosod ar y llwybr gastroberfeddol [4][6], mae'n bosibl bod  yr ymosodiadau yn cael eu cyfeirio at antigenau microbig.

Tra bo clefyd Crohn yn afiechyd sy'n gysylltiedig ag imiwnedd, nid yw'n ymddangos ei bod yn glefyd awtoimiwn (gan nad yw'r system imiwnedd yn cael ei sbarduno gan y corff ei hun) [7] [6][8][9].  Nid yw'r union broblem imiwnedd sylfaenol yn glir; fodd bynnag, gall fod yn gyflwr diffyg imiwnedd. Mae tua hanner y risg o gael y clefyd yn gysylltiedig â geneteg gyda mwy na 70 o enynnau wedi cysylltu â'r clefyd. Mae ysmygwyr tybaco ddwywaith mwy tebygol o ddatblygu clefyd Crohn na rhai nad ydynt yn ysmygu. Mae hefyd yn aml yn dechrau ar ôl dioddef pwl o astro-enteritis.  Mae diagnosis yn seiliedig ar nifer o ganfyddiadau gan gynnwys biopsi ac ymddangosiad wal y coluddyn, delweddu meddygol a disgrifiad o'r afiechyd gan y claf. Mae cyflyrau eraill a all creu symptomau tebyg yn cynnwys syndrom coluddyn llidus a chlefyd Behçet.

Triniaeth

Nid oes unrhyw feddyginiaethau na gweithdrefnau llawfeddygol a all wella clefyd Crohn [10]. Mae opsiynau triniaeth yn cynnwys lleddfu'r symptomau, ceisio parhad gwellhad dros dro, ac atal atglafychu. Yn y rhai sydd newydd derbyn diagnosis, gellir defnyddio cyffuriau corticosteroid am gyfnod byr i wella'r afiechyd yn gyflym, â meddyginiaeth arall fel naill ai methotrexate neu thiopurin a ddefnyddir i atal atglafychu. Rhan bwysig o'r driniaeth yw rhoi'r gorau i ysmygu ymhlith y rheini sy'n gwneud.

Caiff un o bob pump o bobl â'r clefyd eu derbyn i'r ysbyty bob blwyddyn, a bydd angen llawdriniaeth ar gyfer y clefyd rywbryd dros gyfnod o ddeng mlynedd mewn hanner y cleifion. Er y dylid defnyddio llawdriniaeth cyn lleied â phosib, bydd angen mynd i'r afael â rhai crawniadau, rhwystrau penodol i'r coluddyn, a chanserau.  Argymhellir gwirio am ganser y coluddyn trwy golonosgopi yn rheolaidd, gan ddechrau wyth mlynedd ar ôl i'r clefyd ddechrau.

Cyffredinoled

Mae clefyd Crohn yn effeithio ar tua 3.2 allan o bob 1,000 o bobl yn Ewrop a Gogledd America. Mae clefydau llid y coluddyn (clefyd Crohn a llid briwiol y coluddyn) yn effeithio ar 15,500 o bobl yng Nghymru[11]. Mae'n llai cyffredin yn Asia ac Affrica. Yn hanesyddol bu'n fwy cyffredin yn y byd datblygedig, fodd bynnag, mae achosion wedi bod yn cynyddu yn y byd sy'n datblygu, ers y 1970au. Achosodd clefydau llidol y coluddyn 47,400 o farwolaethau trwy'r byd yn 2015 [12] ac mae gan y rheini â chlefyd Crohn ddisgwyliad oes ychydig yn llai na'r cyffredin. Mae'r clefyd yn tueddu i ddechrau yn yr arddegau a'r ugeiniau, er y gall gychwyn mewn pobl o unrhyw oedran. Mae gwrywod a benywod yn cael eu heffeithio'n gyfartal.

Hanes

Cafodd y clefyd ei enwi ar ôl y meddyg gastroenteroleg Burrill Bernard Crohn o Ysbyty Mount Sinai yn Efrog Newydd. Ym 1932 fe ddisgrifiodd Crohn a dau gyd weithiwr iddo symptomau mewn cyfres o gleifion oedd yn dioddef o lid ar derfyn yr ilëwm yn y coluddyn bach, yr ardal a effeithir fwyaf gan y salwch.

Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

Cyfeiriadau