Indrawn

Indrawn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Plantae
Ddim wedi'i restru:Angiosbermau
Ddim wedi'i restru:Monocotau
Ddim wedi'i restru:Comelinidau
Urdd:Poales
Teulu:Poaceae
Genws:Zea
Rhywogaeth:Z. mays
Enw deuenwol
Zea mays
L.

Grawnfwyd yw Indrawn, weithiau India corn neu ŷd India (Zea mays L.). Dechreuwyd tyfu'r planhigyn yng Nghanolbarth America, ac wedi i Ewropeaid gyrraedd America yn niwedd y 15fed a dechrau'r 16g, lledaenwyd ef trwy'r byd. Mae'n gnwd eithriadol o bwysig ar gyfandir America; tyfir 270 miliwn tunnell y flwyddyn yn yr Unol Daleithiau yn unig.

Gall dyfu bron mewn unrhyw fan gan gynnwys gwlyptiroedd, coedwigoedd a thwndra. Dofwyd ac addaswyd y planhigyn gan ffermwyr dros y milenia; chwiorydd i'r planhigyn hwn yw: gwenith, barlys, reis ac ŷd.

Prif gynhyrchwyr Indrawn y Byd (2005)
 Rhif Gwlad Cynnyrch 
(Tunelli metrig))
 Rhif Gwlad Cynnyrch 
(Tunelli metrig)
   1Unol Daleithiau   282.260   9De Affrica   11.996
   2Tsieina   135.000   10Yr Eidal   10.510
   3Brasil   34.860   11Rwmania   9.965
   4Mecsico   20.500   12Hwngari   9.017
   5Yr Ariannin   19.500   13Canada   8.392
   6India   14.500   14Wcrain   7.100
   7Ffrainc   13.712   15Yr Aifft   6.800
   8Indonesia   12.014   Y Byd   710.300

Mae'n gnwd gweddol gyffredin yng Nghymru, er nad yw'r tywydd yn ddelfrydol iddo.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am rawnfwyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.