Pinafal

Mae'r pinafal (Ananas comosus) yn blanhigyn trofannol sydd â ffrwyth lluosog bwytadwy o fwyar ymgymysg â'i gilydd, hefyd yn cael ei alw'n afal pin.[1][2] Hwn yw'r planhigyn yn nheulu Bromeliaceae sy'n cael ei fasnachu fwyaf.[3]

Pinafal wedi ei dorri i lawr ei ganol
Pinafal ifanc yn blodeuo

Gellir tyfu pinafalau o'r blaguryn sy'n tyfu o ben y ffrwyth. Gall flodeuo mewn pump i ddeg mis a dwyn ffrwyth yn y chwe mis canlynol.[4][5] Nid yw pinafalau yn aeddfedu ryw lawer ar ôl eu medi.[6] Yn 2016, roedd Costa Rica, Brasil a'r Ffilipinau rhyngddynt yn tyfu tua thraean o holl binafalau'r byd.

Cyfeiriadau