Cynghrair y Pencampwyr UEFA

Cystadleuaeth bêl-droed blynddol ar gyfer prif glybiau Ewrop yw Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Fe'i drefnir gan Undeb y Cymdeithasau Pêl-droed Ewropeiadd (UEFA).

Cyflwynwyd Cynghrair y Pencampwyr UEFA ym 1992 fel olynydd i Gwpan Pencampwyr Ewrop neu Cwpan Ewrop oedd wedi bodoli ers 1955[1]. Cyn 1992 dim ond pencampwr pob gwlad oedd yn cystadlu ond cafodd y gystadleuaeth ei hymestyn ym 1992. Ychwanegwyd rownd o grwpiau i'r gystadleuaeth a chafodd y gwledydd cryfaf yrru hyd at bedwar clwb i'r gystadleuaeth.

Yn ei ffurf bresennol, mae Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn cychwyn yng nghanol mis Gorffennaf gyda tair rownd o gemau dros ddau gymal a gêm ail gyfle dros ddau gymal. Mae'r 10 tîm sydd weddill yn dilyn y rowndiau rhagbrofol yn ymuno â'r 22 o glybiau sydd yn ymuno'n syth yn rownd y grwpiau. Mae'r 32 tîm yn cael eu gosod mewn wyth grŵp o bedwar ac yn chwarae yn erbyn eu gilydd gartref ac oddi cartref gydag wyth enillydd y grŵp a'r wyth tîm orffennodd yn yr ail safle yn camu ymlaen i'r rowndiau olaf.[2].

Mae enillwyr Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn sicrhau eu lle yn Super Cup UEFA a Chwpan Clwb y Byd FIFA[3][4].

Real Madrid ydi'r clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth ar ôl ennill y tlws ar 10 achlysur, gan gynnwys y pum tlws cyntaf. Sbaen ydi'r wlad â'r nifer fwyaf o bencampwyr (15) tra bod gan Lloegr a'r Eidal 12 buddugoliaeth yr un. Mae 22 o glybiau gwahanol wedi torri eu henwau ar y tlws, gyda 12 ohonynyt wedi codi'r tlws ar fwy nag un achlysur[5]. Ers newid ffurf ac enw'r gystadleuaeth ym 1992, nid oes yr un clwb wedi llwyddo i amddiffyn eu coron; A.C. Milan oedd y clwb diwethaf i amddiffyn eu coron yn ystod tymor 1989-90[6].

Hanes

Cystadlaethau Cynnar

Yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf a diddymiad yr Ymerodraeth Awstro-Hwngariaidd, sefydlodd Awstria, Hwngari a Tsiecoslofacia gynghrieiriau pêl-droed proffesiynol; y gwledydd cyntaf ar gyfandir Ewrop i wneud hyn, ac er mwyn sicrhau arian i'r clybiau proffesiynol newydd cafwyd cyfarfod yn Fenis, Yr Eidal ym 1927 er mwyn sefydlu Cwpan Mitropa[7]. Am y ddau dymor cyntaf cafwyd dau glwb o Awstria, Hwngari, Iwgoslafia a Tsiecoslofacia gyda chlybiau o'r Eidal yn cymryd lle clybiau Iwgoslafia o 1929 ymlaen.

Ceisiodd clwb Servette o'r Swistir i sefydlu tlws ar gyfer pencampwyr gwledydd Ewrop ym 1930 gyda 10 o glybiau yn cystadlu yn y Coupe des Nations gyda Újpest o Hwngari yn codi'r tlws. Er ei lwyddiant, ni chafwyd ail gystadleuaeth oherwydd problemau ariannol.

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, cafywd cystadleuaeth newydd ar gyfer timau Ffrainc, Yr Eidal, Sbaen a Phortiwgal o'r enw'r Cwpan Lladin (Saesneg: Latin Cup; Ffrangeg: Coupe Latine; Eidaleg: Coppa Latina; Portiwgaleg: Taça Latina; Sbaeneg: Copa Latina) ond yn dilyn sefydlu Cwpan Pencampwyr Ewrop daeth y Cwpan Lladin i ben ym 1957.[8]

Sefydlu Cwpan Ewrop

Ar ôl cael adroddiadau ffafriol o'r Campeonato Sudamericano de Campeones ym 1948, dechreuodd Gabriel Hanot, golygydd papur newydd L'Équipe, withio i ffurfio cystadleuaeth tebyg ar gyfer cyfandir Ewrop[9]. Wedi i Stan Cullis, rheolwr Wolverhampton Wanderers, gyhoeddi mai Wolves oedd "Pencampwyr y Byd" yn dilyn cyfres o fuddugoliaethau mewn gemau cyfeillgar yn y 1950au llwyddodd Hanot i ddwyn perswâd ar UEFA i sefydlu'r gystadleuaeth[1] a daeth Cwpan Pencampwyr Clybiau Ewrop i fodolaeth yn dilyn cyfarfod ym Mharis ym 1955[1].

Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA

Cynhelir twrnament Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA hefyd ar hyd strwythur debyg i'r gystadleuaeth i ddynion.

Anthem

Ysgrifennwyd anthem Cynghrair y Pencampwyr UEFA gan Tony Britten ac mae'n addasiad o Zadok the Priest gan Georg Friedrich Händel[10][11]. Perfformiwyd y darn gan y Gerddorfa Ffilarmonig Brenhinol gyda lleisiau Academi St. Martin in the Fields[10]. Mae'r corws yn defnyddio tair iaith swyddogol UEFA: Saesneg, Almaeneg a Ffrangeg. Chwaraeir yr anthem cyn pob un gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA.

Perfformiadau

Mae 22 o glybiau gwahanol wedi ennill y gystadleuaeth ers ei sefydlu ym 1955 gyda Real Madrid â'r record am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau ar ôl codi'r tlws ar 10 achlysur. Dim ond dau glwb arall sydd wedi cyrraedd 10 rownd derfynol; A.C. Milan a F.C. Bayern München. Mae 12 clwb wedi ennill y tlws ar fwy nag un achlysur; Real Madrid, AC Milan, Bayern München, Lerpwl, Ajax, Barcelona, Internazionale, Manchester United, Benfica, Nottingham Forest, Juventus a Porto. Mae 17 o glybiau gwahanol wedi cyrraedd y rownd derfynol heb godi'r tlws[5].

Mae clybiau o 10 gwahanol gwlad wedi ennill y gystadleuaeth gyda chlybiau Sbaen y mwyaf llwyddiannus wrth ennill 15 tlws. Mae Lloegr a'r Eidal yn gyfartal gyda 12 buddugoliaeth tra bo clybiau'r Almaen wedi codi saith tlws, Yr Iseldiroedd chwech a Phortiwgal pedwar. Mae'r Alban, Rwmania, Iwgoslafia a Ffrainc wedi sicrhau un tlws yr un.

Yn ôl gwlad

Perfformiad yn ôl gwlad
GwladEnillwyrAil
 Sbaen1510
 Yr Eidal1215
 Lloegr127
 Yr Almaen710
 Yr Iseldiroedd62
 Portiwgal45
 Ffrainc15
 Yr Alban11
 Romania11
 Iwgoslafia11
 Gwlad Groeg01
 Gwlad Belg01
 Sweden01

Ers dechrau'r gystadleuaeth mae pump rownd derfynol wedi gweld dau glwb o'r un wlad: Sbaen yn 2000 a 2014, Yr Eidal yn 2003, Lloegr yn 2008 a'r Almaen yn 2013.[12]

Rowndiau terfynol

Allwedd
Cafodd y gêm ei hennill wedi Amser ychwanegol
*Cafodd y gêm ei hennill ar Giciau o'r smotyn
Cafodd y gêm ei hennill wedi gêm ail-chwarae
Rhestr rowndioau terfynol Cwpan Ewrop a Chynghrair Pencampwyr UEFA
TymorGwladEnillwyrSgôrAilGwladLleoliadTorf[13]
1955–56  SbaenReal Madrid4–3Stade de Reims  Ffrainc Parc des Princes, Paris38,239
1956–57  SbaenReal Madrid2–0Fiorentina  Yr Eidal  Sbaen Santiago Bernabéu Stadium, Madrid124,000
1957–58  SbaenReal Madrid3–2Milan  Yr Eidal Heysel Stadium, Brussels67,000
1958–59  SbaenReal Madrid2–0Stade de Reims  Ffrainc Neckarstadion, Stuttgart72,000
1959–60  SbaenReal Madrid7–3Eintracht Frankfurt Gorllewin yr Almaen Parc Hampden, Glasgow127,621
1960–61  PortiwgalBenfica3–2Barcelona  Sbaen Wankdorf Stadium, Bern26,732
1961–62  PortiwgalBenfica5–3Real Madrid  Sbaen Olympisch Stadion, Amsterdam61,257
1962–63  Yr EidalMilan2–1Benfica  Portiwgal Wembley Stadium, Llundain45,715
1963–64  Yr EidalInternazionale3–1Real Madrid  Sbaen Prater Stadium, Vienna71,333
1964–65  Yr EidalInternazionale1–0Benfica  Portiwgal San Siro, Milan89,000
1965–66  SbaenReal Madrid2–1Partizan  Iwgoslafia Heysel Stadium, Brussels46,745
1966–67  Yr AlbanCeltic2–1Internazionale  Yr Eidal Estádio Nacional, Lisbon45,000
1967–68  LloegrManchester United4–1Benfica  Portiwgal Wembley Stadium, Llundain92,225
1968–69  Yr EidalMilan4–1Ajax  Yr Iseldiroedd  Sbaen Santiago Bernabéu Stadium, Madrid31,782
1969–70  Yr IseldiroeddFeyenoord2-1Celtic  Yr Alban San Siro, Milan53,187
1970-71  Yr IseldiroeddAjax2-0Panathinaikos  Gwlad Groeg Wembley Stadium, Llundain83,179
1971-72  Yr IseldiroeddAjax2-0Internazionale  Yr Eidal De Kuip, Rotterdam61,354
1972–73  Yr IseldiroeddAjax1-0Juventus  Yr Eidal Red Star Stadium, Belgrade89,484
1973–74 Gorllewin yr AlmaenBayern München4–0[A]Atlético Madrid  Sbaen Heysel Stadium, Brussels72,047
1974–75 Gorllewin yr AlmaenBayern München2–0Leeds United  Lloegr Parc des Princes, Paris48,374
1975–76 Gorllewin yr AlmaenBayern München1–0Saint-Étienne  Ffrainc Parc Hampden, Glasgow54,864
1976–77  LloegrLerpwl3-1Borussia Mönchengladbach Gorllewin yr Almaen Stadio Olimpico, Rhufain52,078
1977–78  LloegrLerpwl1-0Club Brugge  Gwlad Belg Wembley Stadium, Llundain92,500
1978-79  LloegrNottingham Forest1-0Malmö FF  Sweden Olympiastadion, München57,500
1979–80  LloegrNottingham Forest1-0Hamburg Gorllewin yr Almaen Santiago Bernabéu Stadium, Madrid51,000
1980–81  LloegrLerpwl1–0Real Madrid  Sbaen Parc des Princes, Paris48,360
1981–82  LloegrAston Villa1-0Bayern München Gorllewin yr Almaen De Kuip, Rotterdam46,000
1982–83 Gorllewin yr AlmaenHamburg1–0Juventus  Yr Eidal Stadiwm Olympaidd, Athen73,500
1983-84  LloegrLerpwl1-1*[B]Roma  Yr Eidal Stadio Olimpico, Rhufain69,693
1984–85  Yr EidalJuventus1-0Lerpwl  Lloegr Heysel Stadium, Brussels58,000
1985–86  RwmaniaSteaua București0–0*[C]Barcelona  Sbaen Estadio Ramón Sánchez Pizjuán, Seville70,000
1986–87  PortiwgalPorto2-1Bayern München Gorllewin yr Almaen Prater Stadium, Vienna57,500
1987–88  Yr IseldiroeddPSV Eindhoven0–0*[Ch]Benfica  Portiwgal Neckarstadion, Stuttgart68,000
1988–89  Yr EidalMilan4–0Steaua București  Rwmania Camp Nou, Barcelona97,000
1989–90  Yr EidalMilan1-0Benfica  Portiwgal Prater Stadium, Vienna57,558
1990–91  IwgoslafiaRed Star Belgrade0–0*[D]Marseille  Ffrainc Stadio San Nicola, Bari56,000
1991–92  SbaenBarcelona1–0Sampdoria  Yr Eidal Wembley Stadium, Llundain70,827
1992-93  FfraincMarseille1-0Milan  Yr Eidal Olympiastadion, München64,400
1993–94  Yr EidalMilan4–0Barcelona  Sbaen Stadiwm Olympaidd, Athen70,000
1994-95  Yr IseldiroeddAjax1-0Milan  Yr Eidal Ernst-Happel-Stadion, Vienna49,730
1995–96  Yr EidalJuventus1-1*[Dd]Ajax  Yr Iseldiroedd Stadio Olimpico, Rhufain70,000
1996-97  Yr AlmaenBorussia Dortmund3-1Juventus  Yr Eidal Olympiastadion, München59,000
1997–98  SbaenReal Madrid1-0Juventus  Yr Eidal Amsterdam Arena, Amsterdam48,500
1998–99  LloegrManchester United2-1Bayern München  Yr Almaen Camp Nou, Barcelona90,245
1999–2000  SbaenReal Madrid3-0Valencia  Sbaen Stade de France, Saint-Denis80,000
2000–01  Yr AlmaenBayern München1–1*[E]Valencia  Sbaen San Siro, Milan71,500
2001–02  SbaenReal Madrid2-1Bayer Leverkusen  Yr Almaen Parc Hampden, Glasgow50,499
2002–03  Yr EidalMilan0-0*[F]Juventus  Yr Eidal Old Trafford, Manceinion62,315
2003–04  PortiwgalPorto3-0AS Monaco  Ffrainc Arena AufSchalke, Gelsenkirchen53,053
2004–05  LloegrLerpwl3-3*[Ff]Milan  Yr Eidal Atatürk Olympic Stadium, Istanbul69,000
2005–06  SbaenBarcelona2-1Arsenal  Lloegr Stade de France, Saint-Denis79,610
2006–07  Yr EidalMilan2–1Lerpwl  Lloegr Stadiwm Olympaidd, Athen63,000
2007–08  LloegrManchester United1–1*[G]Chelsea  Lloegr Luzhniki Stadium, Moscow67,310
2008–09  SbaenBarcelona2–0Manchester United  Lloegr Stadio Olimpico, Rhufain62,467
2009–10  Yr EidalInternazionale2–0Bayern München  Yr Almaen Santiago Bernabéu Stadium, Madrid73,490
2010–11  SbaenBarcelona3–1Manchester United  Lloegr Wembley Stadium, Llundain87,695
2011–12  LloegrChelsea1–1*[Ng]Bayern München  Yr Almaen Allianz Arena, München62,500
2012–13  Yr AlmaenBayern München2–1Borussia Dortmund  Yr Almaen Wembley Stadium, Llundain86,298
2013–14  SbaenReal Madrid4–1Atlético Madrid  Sbaen Estádio da Luz, Lisbon60,976
2014–15  SbaenBarcelona3–1Juventus  Yr Eidal Olympiastadion, Berlin70,442
2015–16  SbaenReal Madrid1–1*[H]Atlético Madrid  Sbaen San Siro, Milan71,942
2016–17  SbaenReal Madrid4-1Juventus  Yr Eidal Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd65,842
2017–18  SbaenReal Madrid3-1Lerpwl  Lloegr NSC Olimpiyskiy Stadium, Kiev61,561
2018-19 Wanda Metropolitano, Madrid
2019-20 Atatürk Olympic Stadium, Istanbul

Nodiadau

Cysylltiadau Cymreig

Mae pedwar Cymro wedi ennill Cwpan Ewrop/Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Joey Jones oedd y Cymro cyntaf i ennill y tlws gyda Lerpwl ym 1976-77[25] ac roedd Jones hefyd yn eilydd y tymor canlynol pan lwyddodd Lerpwl i drechu Club Brugge. Roedd Ian Rush yn rhan o dîm Lerpwl drechodd A.S. Roma ar giciau o'r smotyn ym 1983-84[26] ac yn aelod o dîm Lerpwl gollodd yn erbyn Juventus ym 1984-85.

Ryan Giggs ydi'r unig Gymro sydd wedi ennill y tlws ar fwy nag un achlysur. Roedd yn rhan o dîm Manchester United drechodd Bayern München ym 1998-99[27], a hefyd o'r tîm drechodd Chelsea yn 2007-08[28]. Mae Giggs hefyd wedi colli mewn dwy rownd derfynol, yn erbyn Barcelona yn 2008-09[29] ac yn 2010-11[30].

Gareth Bale oedd y Cymro cyntaf i sgorio mewn rownd derfynol wrth iddo helpu Real Madrid godi'r tlws yn 2013-14[31].

Terry Yorath oedd y Cymro cyntaf i chwarae yn y rownd derfynol, fel rhan o dîm Leeds United gollodd yn erbyn Bayern München ym 1974-75[32]. Roedd y golgeidwad, Glan Letheren, yn eilydd i Leeds yn yr un flwyddyn. Roedd Craig Bellamy yn eilydd yn rownd derfynol 2006-07 pan gollodd Lerpwl yn erbyn A.C. Milan.

Cymru sydd wedi ennill Cwpan Ewrop a Chynghrair y Pencampwyr UEFA

TymorEnwGêm
1976–77 Joey JonesLerpwl 3-1 Borussia Mönchengladbach
1983–84 Ian RushLerpwl 1-1 A.S. Roma
1998-99 Ryan GiggsManchester United 2-1 Bayern München
2007–08 Ryan GiggsManchester United 1-1 Chelsea
2013-14 Gareth BaleReal Madrid 4-1(w.a.y.) Atlético Madrid

Lerpwl yn ennill 4-2 ar c.o.s.
Manchester United yn ennill 6-5 ar c.o.s.

Cyfeiriadau