Cyril Ramaphosa

Gwleidydd o Dde Affrica yw Matamela Cyril Ramaphosa (ganwyd 17 Tachwedd 1952). Fe yw pumed Arlywydd De Affrica yn dilyn ymddiswyddiad Jacob Zuma.[2] Cymerodd ei swydd yn dilyn pleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 15 Chwefror 2018.[3]

Cyril Ramaphosa
5ed Arlywydd De Affrica
Deiliad
Cychwyn y swydd
15 Chwefror 2018[1]
Dros dro: 14 Chwefror 2018 - 15 Chwefror 2018
Rhagflaenwyd ganJacob Zuma
Llywydd yr African National Congress
Deiliad
Cychwyn y swydd
18 Rhagfyr 2017
DirprwyDavid Mabuza
Rhagflaenwyd ganJacob Zuma
Is-arlywydd de Affrica
Yn ei swydd
26 Mai 2014 – 15 Chwefror 2018
ArlywyddJacob Zuma
Rhagflaenwyd ganKgalema Motlanthe
Dilynwyd ganTBD
Dirprwy Arlywydd yr African National Congress
Yn ei swydd
18 Rhagfyr 2012 – 18 Rhagfyr 2017
ArlywyddJacob Zuma
Rhagflaenwyd ganKgalema Motlanthe
Dilynwyd ganDavid Mabuza
Ysgrifennydd Cyffredinol yr African National Congress
Yn ei swydd
1 Mawrth 1991 – 18 Rhagfyr 1997
ArlywyddNelson Mandela
Rhagflaenwyd ganAlfred Baphethuxolo Nzo
Dilynwyd ganKgalema Motlanthe
Manylion personol
Ganwyd (1952-11-17) 17 Tachwedd 1952 (71 oed)
Soweto, De Affrica
Plaid wleidyddolAfrican National Congress
PriodTshepo Motsepe
Plant4
Alma materPrifysgol Limpopo
Prifysgol South Africa

Bu'n actifydd gwrth-apartheid, arweinydd undeb llafur a dyn busnes, ac roedd wedi bod yn Ddirprwy Arlwydd De Affrica ers 2014.[4] Fe'i etholwyd yn Llywydd yr ANC yng 54eg Cynhadledd Cenedlaethol yr ANC yn Nasrec, De Johannesburg yn Rhagfyr 2017. Mae hefyd yn Gadeirydd y Comisiwn Cynllunio Cenedlaethol,[5] sy'n gyfrifol am gynllunio strategol dros ddyfodol De Affrica.[6]

Cyfeiriadau

Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Jacob Zuma
Arlywydd De Affrica
15 Chwefror 2018 – presennol
Olynydd:
deiliad