Deutsche Welle

gwasanaeth newyddion ryngwladol Almaeneg (a 30+ iaith) ar radio, teledu, ac ar-lein

Mae Deutsche Welle, talfyriad DW, yn ddarlledwr Almaeneg, rhyngwladol ganolog ac yn cymryd rhan yn y sefydliad darlledu cyhoeddus ARD. Mae Deutsche Welle yn cynnwys gorsaf radio, sianel deledu, gwefan mewn ddeg ar hugain o ieithoedd a chwrs hyfforddi newyddiadurol. Nod Deutsche Welle yw hyrwyddo'r Almaen fel gwladwriaeth gyfansoddiadol ddemocrataidd sydd wedi'i gwreiddio yn Ewrop, wedi'i chreu'n rhydd, a hyrwyddo dealltwriaeth a chyfnewid rhwng diwylliannau a phobloedd[1] gan hefyd cynhyrchu sylw newyddion dibynadwy, darparu mynediad i'r iaith Almaeneg, a hyrwyddo dealltwriaeth rhwng pobl.[2]

Logo Deutsche Welle ers 2012
Deutsche Welle
Enghraifft o'r canlynoly cyfryngau torfol, darlledwr, gorsaf deledu, public-law institution Edit this on Wikidata
Gwladyr Almaen Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu3 Mai 1953 Edit this on Wikidata
PerchennogARD Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolARD, German Media Council, Informations-Verarbeitungs-Zentrum, Comisiwn UNESCO yr Almaen, Undeb Darlledu Ewropeaidd, ITU Telecommunication Standardization Sector Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolpublic-law institution Edit this on Wikidata
PencadlysSchürmann-Bau Edit this on Wikidata
Enw brodorolDeutsche Welle Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.dw.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhyngwladol

Sianel newyddion yw DW (TV) sy'n darlledu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos yn Almaeneg, Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Arabeg, Dari a Pashto. Gellir clywed DW (Radio) mewn 31 o wahanol ieithoedd. Mae DW.de ar gael mewn 30 iaith ledled y byd. Mae'r DW-Akademie yn cynnig hyfforddiant ac addysg bellach proffesiynau cyfryngau i bobl o bob cwr o'r byd.

Mae Deutsche Welle wedi bod yn darlledu'n rheolaidd ers 1953. Hyd at 2003, roedd yr orsaf wedi'i lleoli yn ninas Cwlen, ac ar ôl hynny symudodd i Bonn (DW (Radio), DW Akademie, DW.de). Mae'r pencadlys teledu ym mhrifddinas yr Almaen, Berlin. Mae swyddfeydd ym Mrwsel, Mosgo, a Washington. Mae rhwydwaith o newyddiadurwyr parhaol a llawrydd yn gyfrifol am newyddiadura ar ran yr orsaf.

Er 2004 mae Deutsche Welle yn trefnu'r etholiad gweflog blynyddol 'Best of the Blogs'.[3]

Staff

O 2019 ymlaen, roedd tua 1,500 o weithwyr a 1,500 o weithwyr llawrydd o 60 gwlad yn gweithio i Deutsche Welle yn ei swyddfeydd yn Bonn a Berlin.[2]

Cronoleg

Logo Deutsche Welle (1995-2003)
  • 1924 - sefydlu Deutsche Welle GmbH, yn Berlin
  • 1953 - ailddechreuodd Deutsche Welle weithredu ar ôl yr Ail Ryfel Byd
  • 1955 - dechrau cynhyrchu rhaglenni yn Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg a Phortiwgaleg
  • 1990 - Ailuno'r Almaen - Gydag ailuno'r Almaen ym 1990, peidiodd gwasanaeth darlledu rhyngwladol Dwyrain yr Almaen, a alwyd yn Radio Berlin International (RBI), ddarlledu. Ymunodd rhai o staff yr RBI â Deutsche Welle ac etifeddodd DW rai cyfleusterau darlledu, gan gynnwys cyfleusterau darlledu yn Nauen, yn ogystal ag amleddau RBI.
  • 1994 - ym mis Medi 1994, Deutsche Welle oedd y darlledwr cyhoeddus cyntaf yn yr Almaen gyda phresenoldeb ar y rhyngrwyd, a'r cyfeiriad i ddechrau oedd www-dw.gmd.de, a gynhaliwyd gan Ganolfan Ymchwil Technoleg Gwybodaeth GMD.

Ieithoedd Darlledu

Lleoliad Deutsche Welle yn Bonn, 2014
Amserlen ddarlledu Deutsche Welle, Awst 1993
Gorsaf fesur a derbyn yn Hückeswagen-Bockhacken
Swyddfa olygyddol radio Arabeg Deutsche Welle yn Cwlen. Llefarydd rhaglen Arabeg wrth ei waith
IaithCychwynDod i benSylwadau
Almaeneg1953[4]TV
Saesneg *1954[4]Radio & TV
Ffrangeg *Radio
SbaenegTV
PortiwgalegRadio
Arabeg1959[5]TV
Farsi1962[6]
Twrceg
Rwsieg
Pwyleg *
Tsieceg *2000[7]
Slofaceg *2000[7]
Hwngareg *2000[7]
Serbo-Croateg *1992[8]
Swahili1963[6]Radio
HausaRadio
Indoneseg (Malay)
Bwlgareg
Rwmaneg *
Slofeneg2000
Groegeg1964[6]Radio
Hindi
Bengali
Urdu
Eidaleg *1998[9]
Tsieinieg1965[10]
AmharegRadio
Sanskrit19661998
Japaneg1969[10]2000[7]
Macedoneg
Pashto1970[11]Radio
DariRadio
Serbeg1992[8]
Croateg
Albaneg
Bosnieg1997[9]
Daneg *19651998[9]
Norwyeg *
Swedeg *
Iseldireg *1967
Wcreineg2000[7]
Belarwsieg2005[12]before 2011

 * yn rhannol gan Deutschlandfunk (tan 1993)

Cyfeiriadau

Bundesministerium der Justiz und für Verbraucherschutz. Gesetz über die Rundfunkanstalt des Bundesrechts "Deutsche Welle", 11 januari 2005.
  • 2.0 2.1 "Profile DW". Deutsche Welle. Cyrchwyd 5 July 2015.
  • (Saesneg) DW. The Bobs[dolen marw]Nodyn:Dode link, Best of Online Activism
  • 4.0 4.1 "1950–1954". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
  • "1955–1959". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
  • 6.0 6.1 6.2 "1960–1964". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
  • 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 "2000–2005". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
  • 8.0 8.1 "1990–1994". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
  • 9.0 9.1 9.2 "1995–1999". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
  • 10.0 10.1 "1965–1969". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
  • "1970–1974". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
  • "Broadcasting Democracy to Belarus". Belarus Digest. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 December 2014. Cyrchwyd 15 May 2015.
  • Dolenni allanol

    🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanArbennig:SearchCarles PuigdemontWicipedia:Cysylltwch â niMarie AntoinetteXxx: State of The UnionDisturbiaDelwedd:XHamster logo.svgWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:Ynglŷn â WicipediaFfilm llawn cyffroEagle EyeArbennig:RecentChangesKathleen Mary FerrierWicipedia:CymorthUnol Daleithiau AmericaYr Ail Ryfel BydDwylo Dros y MôrDriggThe Salton SeaWicipedia:CyflwyniadRhestr llynnoedd CymruDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgWicipedia:Y CaffiCymruMichael D. JonesSimon BowerWicipedia:Gwadiad CyffredinolWikipediaSpecial:SearchYasser ArafatDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodCaethwasiaethCymraegY Weithred (ffilm)Bartholomew RobertsWicipedia:CymraegCategori:Pentrefi Dyfnaint