Croateg

iaith

Iaith a siaredir yng Nghroatia a rhai gwledydd cyfagos yw Croateg. Mae'n iaith swyddogol yn Croatia, a cheir nifer sylweddol yn ei siarad yn Bosnia-Hertsegofina hefyd, gyda chyfanswm o 6.2 miliwn trwy'r byd yn ei siarad fel mamiaith.

Croateg
Enghraifft o'r canlynolamrywiolyn iaith, standard variety Edit this on Wikidata
MathEastern Herzegovinian Edit this on Wikidata
Enw brodorolhrvatski jezik Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 7,000,000
  • cod ISO 639-1hr Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2hrv Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3hrv Edit this on Wikidata
    GwladwriaethCroatia, Bosnia a Hertsegofina, Serbia, Montenegro, Awstria, Hwngari, yr Eidal, Rwmania, Slofacia, Slofenia, tsiecia Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuGaj's Latin alphabet Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioInstitute of Croatian Language and Linguistics Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Tafodieithoedd Croateg
    Croateg 1100.
    Llyfr Gweddi Croateg o tua 1400

    Mae Croateg yn rhan o'r grŵp o ieithoedd De Slafoneg a elwir wrth yr enw Serbo-Croateg, sydd hefyd yn cynnwys Serbeg a Bosneg. Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel iaith, ac mae llawer o ieithyddion yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosnieg a Chroateg fel ieithoedd ar wahân, er eu bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosnieg a Montenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahân.

    Ardaloedd lle siaredir Croateg (2006)

    Mae Croateg yn iaith swyddogol Croatia ac yn Bosnia-Hertsegofina, Burgenland (Awstria), a Molise (Yr Eidal)

    Tafodieithoedd

    Mae tair prif tafodiaith i'r Groateg, sy'n cael eu hadnabod yn ôl y gair ar gyfer y cwestiwn beth? - sef što, ča, neu kaj:

    • Štokavski ("što-eg"), a siaradir yn hanner Croatia - yn Slafonia, Zagora, ac ardal Dubrovnik, yn ogystal ag yng nghanolbarth Bosnia a Hertsegofina. Dyma'r dafodiaith sy'n sail i'r iaith Croateg safonol, ac yn sail ar gyfer Bosnieg, Serbeg a Montenegreg safonol hefyd.
    • Čakavski ("čak-eg"), a siaradir yn Istria, ardal Lika, ar ran fwyaf o ynysoedd Môr Adria, ar yr arfordir i'r gogledd o Dubrovnik, ac ar y tir mawr yn nyffryn Gacka a'r cyffiniau. Y dafodiaith "Čak-eg" hon oedd iaith Teyrnas Croatia rhwng y 12fed ganrif - 16eg ganrif
    • Kakajkavski ("kaj-eg"), a siaradir yng ngogledd-orllewin a chanol-orllewin y wlad (yn rhanbarthau Zagorje, Prigorje, Turopolje, Gorski Kotar, Međimurje, Podravina, Žumberak, Banija, Moslavina) ac yn ardal Zagreb. Y "Kaj-eg" hon oedd y dafodiaith uchaf ei statws rhwng y 16eg ganrif - 19eg ganrif. "Kaj" yw'r gair ar gyfer beth? yn Slofeneg hefyd - mae tafodieithoedd Slafig De-Ddwyrain Ewrop yn ffurfio continwwm tafodieithoedd, gyda thafodieithoedd dwyrain Slofenia yn agos at rai gorllewin Croatia.

    Yr wyddor Croateg

    Tabl Cymhariaeth

    CymraegCroategSerbeg
    CymharuUsporedbaПоређење (Poređenje)
    EwropEuropaЕвропа (Evropa)
    Yr IseldiroeddNizozemskaХоландија (Holandija)
    EidalwyrTalijaniИталијани (Italijani)
    BydysawdSvemirВасиона (Vasiona)
    Asgwrn cefnKralježnicaКичма (Kičma)
    AerZrakВаздух (Vazduh)
    AddysgOdgojВаспитање (Vaspitanje)
    WythnosTjedanСедмица (Sedmica)
    HanesPovijestИсторија (Istorija)
    PantaloonsHlačeПанталоне (Pantalone)
    BolTrbuhСтомак (Stomak)
    GwyddoniaethZnanostНаука (Nauka)
    Yn bersonolOsobnoЛично (Lično)
    PersonaOsobaЛице (Lice)
    Cenhedloedd UnedigUjedinjeni NarodiУједињене Нације (Ujedinjene Nacije)
    BaraKruhХлеб (Hleb)
    ArtiffisialUmjetnoВештачки (Veštački)
    CroesKrižКрст (Krst)
    DemocratiaethDemokracijaДемократија (Demokratija)
    DetectionSpoznajaСазнање (Saznanje)
    YnysOtokОстрво (Ostrvo)
    SwyddogČasnikОфицир (Oficir)
    Traffig (ar y ffyrdd)Cestovni prometДрумски саобраћај (Drumski saobraćaj)
    TrafforddAutocestaАутопут (Autoput)
    HydDuljinaДужина (Dužina)
    CymdeithasUdrugaУдружење (Udruženje)
    FfatriTvornicaФабрика (Fabrika)
    CyffredinolOpćeОпште (Opšte)
    CristKristХристoс (Hristos)

    Geirfa syml

    Cymhariaeth rhifau
    CymraegCroateg
    unjedan
    daudva
    tritri
    pedwarčetiri
    pumppet
    chwechšest
    saithsedam
    wythosam
    nawdevet
    degdeset
    Cymhariaeth y misoedd
    CroategCymraeg
    SiječanjIonawr
    VeljačaChwefror
    OžujakMawrth
    TravanjEbrill
    SvibanjMai
    LipanjMehefin
    SrpanjGorffennaf
    KolovozAwst
    RujanMedi
    ListopadHydref
    StudeniTachwedd
    ProsinacRhagfyr
    Cyffredin
    CroategCymraeg
    Da/NeIe/Na
    Dobro JutroBore da
    Dobar DanP'nawn da
    Laku NoćNos da
    Govorite li Velški?Ydych chi'n siarad Cymraeg?
    Ja malo govorim hrvatski jezik.Dw i ddim yn siarad llawer o Groateg.
    Dva pivadau lager
    Molimplis
    Hvaladiolch

    Gweddi'r Arglwydd

    Oče naš, koji jesi na nebesima,
    sveti se ime Tvoje.
    Dođi kraljevstvo Tvoje,
    budi volja Tvoja,
    kako na Nebu, tako i na Zemlji.
    Kruh naš svagdašnji daj nam danas,
    i otpusti nam duge naše,
    kako i mi otpuštamo dužnicima našim.
    I ne uvedi nas u napast,
    nego izbavi nas od zla.

    Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
    Chwiliwch am croateg
    yn Wiciadur.