Dychan

Dull llenyddol neu ffurf ar gelfyddyd yw dychan sydd ceisio amlygu ffaeleddau a ffolineb ei bwnc a thrwy hynny ei wawdio a'i geryddu, yn aml fel ffordd fwriadol o herian, cynhyrfu, neu ddadlau yn ei erbyn. Gall unigolion, sefydliadau, cymdeithas, gwleidyddiaeth, a chrefydd i gyd fod yn dargedau i ddychan.

Math amryffurf o lenyddiaeth yw dychan, a chanddo hanes hir ym marddoniaeth, y ddrama, yr ysgrif, y nofel, a darlunio. Mae'n cwmpasu pob math o hiwmor: ffraethineb, eironi, gogan, coegni, digrifwch heb wên (deadpan), hiwmor swreal, ysmaldod, pryfocio chwareus, a dirmyg chwerw; a sawl genre a dull: dynwarediad, parodi, dameg, grotésg, bwrlésg, a ffars.

Mathau

Dan ddylanwad yr hen Rufeiniaid, dosberthir dychan gan amlaf yn ddau fath: dychan Horasaidd, a enwir ar ôl y telynegwr Horas, a dychan Jwfenalaidd, a enwir ar ôl y bardd Juvenal.

Gellir hefyd dosbarthu llenyddiaeth ddychanol yn uniongyrchol ac anuniongyrchol. Yn y dull uniongyrchol, siarada'r awdur neu'r adroddwr yn uniongyrchol â'r darllenydd. Yn nychan anuniongyrchol, amlyga'r awdur ei ddigrifwch a'i ddadleuon drwy draethiad a chynllun y stori.[1]

Dychan Horasaidd

Nodir dychan Horasaidd gan lais tringar, goddefol a ffraeth. Ei brif fwriad yw difyrru'r gynulleidfa, gan amlaf drwy bigo ar wiriondeb ei bwnc mewn ffordd ysgafn.

Dychan Jwfenalaidd

Dull chwerw, os nid cas, sydd gan ddychan Jwfenalaidd. Nod yr awdur yw lladd ar wendidau a beiau ei darged, ac i fynegi dirmyg a dicter yn ei erbyn.

Ffurfiau hanesyddol

Y gwledydd Celtaidd

Yn y cymdeithasau Celtaidd, credai pobl y byddai dychan prydydd (bardd) yn cael effaith gorfforol ar y gwrthrych, megis melltith neu anffawd, ac yng Nghymru roedd canu dychan yn rhan nodweddiadol o ganu Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr.

Bwystori a fabliau

Un o ffurfiau dychanol yr Oesoedd Canol oedd y bwystori, a ddefnyddir i ddisgrifio ffaeleddau dynion ar ffurf anifeiliaid. Ffurf debyg oedd y fabliaux, straeon smala a genir gan jongleurs yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc o'r 12g hyd y 15g. Nodir gan faswedd a serthedd, ac agweddau sy'n groes i egwyddorion yr eglwys a'r bendefigaeth. Addaswyd sawl fabliau gan Giovanni Boccaccio yn y Decamerone a Geoffrey Chaucer yn The Canterbury Tales.

Y Dadeni

Ceir sawl gwaith dychanol nodedig yn llenyddiaeth y Dadeni, gan gynnwys Das Narrenschiff (1494) gan Sebastian Brant a straeon Gargantua a Pantagruel (1532–64) gan François Rabelais.

Oes Aur yr Oleuedigaeth

Dywed yr oedd Oes Aur Dychan yn ystod yr Oleuedigaeth yn Ewrop, a chyhoeddwyd nifer o weithiau rhyddiaith ddychanol. Un o'r llenorion amlycaf oedd y Gwyddel Jonathan Swift a ysgrifennai'r nofel Gulliver's Travels (1726) a'r traethawd A Modest Proposal (1729), a rhoddir y ddau waith hwn yn aml yn enghreifftiau o'r wahaniaeth rhwng dychan Horasaidd (Gulliver's Travels) a dychan Jwfenalaidd (A Modest Proposal).

Cyfeiriadau