E-lyfr

Cyhoeddiad o lyfr ar ffurf electronig, sy'n cynnwys testun, delweddau neu'r ddau, yw e-lyfr (weithiau Elyfr). Cânt eu cynhyrchu, eu cyhoeddi a'u darllen ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill.[1] Gan amlaf maent yn cyfateb i lyfrau printiedig ond mae ambell lyfr yn unigryw i ffurf yr e-lyfr. Diffinia'r Oxford Dictionary of English yr e-lyfr fel "fersiwn electronig o lyfr printiedig,"[2] ond mae e-lyfrau yn gallu, ac yn bodoli, heb fersiynau printiedig. Gan amlaf, darllenir e-lyfrau ar ddarllenydd e-lyfrau. Gellir defnyddio cyfrifiaduron personol a ffônau symudol i'w darllen hefyd.

Amazon Kindle 3, darllenydd e-lyfrau yn arddangos rhan o e-lyfr ar ei sgrin.

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato