Enw

Enw yw'r gair a ddefnyddir am rywun neu rywbeth wrth sôn amdano. Mewn gramadeg, mae'n rhan ymadrodd sy'n cyd-ddigwydd â bannod bendant neu amhendant ac ansoddeiriau priodol.

Y Gymraeg

Enwau diriaethol a haniaethol

Mae enwau diriaethol yn cyfeirio at bethau gweladwy; llyfr, ci, a merch, tra bod enwau haniaethol yn disgrifio pethau anweledol; hiraeth, prydferthwch, a thristwch.[1]

Enwau cyffredin a phriod

Defnyddir y term enwau cyffredin ar gyfer enwau diriaethol neu haniaethol sydd ddim yn arbennig, megis bwrdd, cerdd, ac iaith, a'r term enwau priod yn cyfeirio at enwau diriaethol neu haniaethol arbennig fel pobl, lleoedd, gwasanaethau, a sefydliadau. Fe'i hysgrifennir â phriflythyren i nodi'r arbenigrwydd, megis Taliesin, Cymru, Golwg360, a Merched y Wawr.[1]

Fel arfer, defnyddir priflythrennau ar gyfer enwau brand ond mae'n bwysig cofio nad yw pob enw priod yn enw brand, a nad yw pob enw brand yn enw priod.

Cenedl enwau

Yn y Gymraeg, mae enwau'n naill ai'n fenywaidd neu yn wrywaidd. Mewn rhai achosion, gall y cenedl enw amrywio am lawer o resymau, megis newid dros amser neu newid yn ôl tafodiaith.

Rhagenwau

Prif: Rhagenw

Defnyddir rhagenwau i chwarae rôl enwau mewn brawddeg, fel arfer i roi bwyslais ar rywbeth neu i osgoi ailadrodd enwau.

Cyfeiriadau

Chwiliwch am enw
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.