Gemau Olympaidd yr Haf 1960
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1960 (Eidaleg Giochi Olimpici estivi del 1960) digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XVII Olympiad rhwng 25 Awst a 11 Medi Gorffennaf a 23 Tachwedd yn Rhufain, yr Eidal. Roedd Rhufain wedi ennill yr hawl i gynnal Gemau 1908 ond yn dilyn ffrwydriad Mynydd Vesuvius ym 1906 bu rhaid ildio'r anrhydedd i Lundain[1][2].
Enghraifft o'r canlynol | Gemau Olympaidd yr Haf |
---|---|
Dyddiad | 1960 |
Dechreuwyd | 25 Awst 1960 |
Daeth i ben | 11 Medi 1960 |
Rhagflaenwyd gan | 1956 Summer Olympics |
Olynwyd gan | 1964 Summer Olympics |
Lleoliad | Stadio Olimpico, Rhufain |
Gwefan | https://olympics.com/en/olympic-games/rome-1960 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dewis lleoliad
Llwyddodd Rhufain i ennill yr hawl i gynnal y Gemau mewn pleidlais yng nghyfarfod y IOC ym Mharis ar 15 Mehefin 1955. Lausanne oedd yn ail yn y bleidlais gyda Brwsel, Budapest, Detroit, Dinas Mecsico a Tokyo hefyd yn gwneud cais.[3].
Y Gemau
Dyma'r Gemau Olympaidd olaf i Dde Affrica ymddangos tra bod y wlad yn cael ei llywodraethu o dan system apartheid. Gwrthododd yr IOC i'w gwahodd i gystadlu ar ôl Gemau 1960 hyd nes Gemau 1992 yn Barcelona.
Cafwyd arthlewtwyr o Morocco, San Marino, Swdan, a Tiwnisia yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf. Dyma oedd yr unig Gemau Olympaidd i weld tîm o Ffederasiwn India'r Gorllewin wrth i'r wladwriaeth, oedd yn bodoli rhwng 1958 a 1962, uno 10 o diriogaethau'r Caribî gan gynnwys Barbados a Jamaica oedd wedi cystadlu fel gwledydd ar wahan ers 1948[4]
Roedd athletwyr o Orllewin yr Almaen a Dwyrain yr Almaen yn cystadlu fel un tîm am yr ail Gemau Olympaidd yn olynol.
Methodd tîm trac dynion yr Unol Daleithiau â sicrhau'r fedal aur yn y 100m[5], 200m[6] na'r ras gyfnewid 4x100m[7] am y tro cyntaf yn hanes y Gemau Olympaidd[2]
Medalau'r Cymry
Llwyddodd David Broome, Cymro o Gaerdydd i ennill medal efydd yn y gystadleuaeth Neidio ceffylau[8] gyda Nick Whitehead o Wrecsam yn ennill efydd fel aelod o dîm ras gyfnewid y 4x100m[9].