Yr Undeb Ewropeaidd

undeb o wladwriaethau Ewropeaidd

Mae'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn gymuned wleidyddol ac economaidd sydd â nodweddion goruwchgenedlaethol a rhyng-lywodraethol. Mae'n cynnwys 27 o aelod-wladwriaethau. Sefydlwyd yr UE ym 1993 gan Gytundeb Maastricht, er i'r broses o integreiddio Ewropeaidd gychwyn gyda'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE), a luniwyd gan chwe gwlad Ewropeaidd ym 1957.

Cylch o 12 seren aur ar gefndir glas
Baner
Arwyddair: "Undeb drwy Amrywiaeth"
Anthem: "Ode an die Freude"
Awdl i Lawenydd
(cerddoriaeth yn unig)

Lleoliad
Lleoliad
Lleoliad
PrifddinasBrwsel (de facto)[1]
50°51′N 4°21′E / 50.850°N 4.350°E / 50.850; 4.350
Ieithoedd swyddogol
Demonym Ewropead[2]
Math Undeb Wleidyddol-Economaidd
Aelod-wladwriaethau
Arweinwyr
 -  Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen
 -  Arlywydd y Cyngor Ewropeaidd Charles Michel
Cyfreithiau
 - Cyngor
 - Senedd
Hanes[3]
 -  Cytundeb Rhufain 1 Ionawr 1958 
 -  Cytundeb Maastricht 1 Tachwedd 1993 
Arwynebedd
 -  Cyfanswm 4,324,782 km2 (7tha)
1,669,808 millt sg
 -  % dŵr 3.08
Poblogaeth
 -  2014 estimate 506,913,394[4] (3rda)
 -  Dwysedd 115.8/km2
300.9/millt sg
GDP (PPP) 2014 - amcangyfrif
 -  Cyfanswm $18.124 triliwn[5] (1afa)
 -  Y pen $35,849[5] (18eda)
GDP (nominal) 2014 (amcan.)
 -  Cyfanswm $18.399 triliwn[5] (1afa)
 -  Y pen $36,392[5] (16eda)
Gini (2010)30.4[6]
canolig
HDI (2011)0.876[7]
uchel iawn ·13eg / 25eda
Arian
  • Ewro (EUR; Y Parth Ewro)
Rhanbarth amser WET (UTC)[a]
CET (UTC+1)
EET (UTC+2)
 -  Haf (Troi'r cloc) WEST (UTC+1)
CEST (UTC+2)
EEST (UTC+3)
Rhyngrwyd TLD .eu[b]
Gwefan
europa.eu
a. Ped ystyrid fel endid ar wahân.

Creodd yr UE farchnad sengl sy'n ceisio gwarantu'r rhyddid i symud pobl, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf yn ddirwystr rhwng yr aelod-wladwriaethau. Mae'r UE yn cynnwys polisïau cyffredin dros fasnach, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a datblygiad rhanbarthol. Ym 1999, cyflwynodd yr UE arian cyfredol cyffredin, sef yr ewro, a fabwysiadwyd gan 13 aelod-wladwriaeth. Mae hefyd wedi datblygu rôl mewn materion polisi tramor, a chyfiawnder a materion cartref.

Gyda bron 500 miliwn o ddinasyddion, cynhyrchodd yr UE gynnyrch mewnwladol crynswth y pen o 11.4 triliwn (£8 triliwn) yn 2007. Mae'n cynrychioli ei aelodau o fewn Sefydliad Masnach y Byd ac mae'n bresennol fel sylwedydd yn uwch-gynadleddau'r G8. Mae 21 o aelodau'r UE yn aelodau o NATO. Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol, sef Senedd Ewrop, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, y Comisiwn Ewropeaidd, Llys Cyfiawnder Ewrop a Llys Archwilwyr Ewrop, yn ogystal â gwahanol gyrff eraill, er enghraifft Banc Canolog Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau. Mae dinasyddion yr UE yn ethol aelodau Senedd Ewrop bob pum mlynedd.

Yn y Deyrnas Unedig, cafwyd refferendwm yn 2016 ar y cwestiwn a ddylai'r DU adael yr UE neu aros yn aelod. Roedd mwyafrif pleidleisiau Yr Alban a Gogledd Iwerddon i aros, yn ogystal ag ardaloedd eraill fel Llundain, Caerdydd, Gwynedd a Cheredigion. Er hynny roedd mwyafrif ar draws y DU i adael, o 52% i 48%.

Hanes

Ganwyd yr Undeb Ewropeaidd fel cydffederasiwn o wledydd i ail-adeiladu Ewrop ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac er mwyn rhwystro hunllef rhyfel arall. Cymuned Ewropeaidd Economaidd, neu Marchnad Gyffredin oedd enw cyntaf yr UE. Newidiwyd yr enw i Cymuned Ewropeaidd ac wedyn i Undeb Ewropeaidd. Wedi dechrau fel undeb masnach datblygodd yr UE i fod yn undeb economaidd a gwleidyddol.

Aelod-wladwriaethau

Aelodau Presennol

Ers 1 Gorffennaf 2013 mae 28 o aelod-wladwriaethau yn yr Undeb Ewropeaidd, ond dim ond 6 o wledydd sefydlodd y CEE ym 1952/1958:

Ymunodd saith gwladwriaeth â'r CEE ar ôl y cychwyn:

Ffurfiwyd yr UE yn wreiddiol yn 1993 gan wladwriaethau'r CEE. Mae 15 o wladwriaethau pellach wedi ymuno â'r UE erbyn hyn:

Cafodd Yr Ynys Las ymreolaeth gan Denmarc ym 1979 a gadawodd yr UE ym 1985 ar ôl refferendwm. Gweler hefyd y brif erthygl Ehangu'r Undeb Ewropeaidd.

Gadawodd y DU ym 2020 ar ôl refferendwm

Ymgeiswyr aelodaeth i'r UE

Mae pum gwlad yn ymgeiswyr swyddogol i fod yn rhan o'r UE: Gwlad yr Iâ, Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia Montenegro, Serbia, a Thwrci. Mae Albania a Bosnia-Hertsegofina yn cael eu hystyried yn swyddogol fel ymgeiswyr potensial. Rhestrir Cosofo fel ymgesiydd potensial hefyd, ond ni ystyrir Cosofo fel gwlad annibynnol gan y Comisiwn Ewropeaidd gan nad yw pob gwlad yn cydnabod Cosofo fel gwlad gwbl ar wahân i Serbia.

Heb fod yn aelod-wladwriaethau o'r UE nac yn ymgeiswyr am aelodaeth, mae perthynas arbennig â'r UE gan sawl gwlad, e.e. Monaco ac Andorra.

Daearyddiaeth a phoblogaeth

Mae maint holl dirwedd 25 aelod-wladwriaeth yr UE (2004) yn 3,892,685 km². Petasai'r UE yn un wlad, byddai'n seithfed fwyaf yn y byd. Roedd poblogaeth yr UE (sef poblogaeth aelod-wladwriaethau'r UE o dan delerau Cytundeb Maastricht) yn 453 miliwn ym mis Mawrth 2004 ac felly, petasai'n un wlad, yn drydedd ar ôl India a Tsieina.

Llywodraethu

Statws

Yr Undeb Ewropeaidd yw'r gyfundrefn ryngwladol fwyaf pwerus yn y byd. Mae nifer o aelod-wladwriaethau wedi rhoi hawliau sofraniaeth genedlaethol i'r UE (er enghraifft arian, polisi ariannol, marchnad fewnol, masnach dramor) ac felly mae'r UE yn datblygu yn rhywbeth tebyg i wladwriaeth ffederal. Beth bynnag, nid ydyw'n wlad ffederal, ond mae'n pwysleisio "subsidiarity" (term arbennig sy'n disgrifo'r egwyddor o benderfynu pethau mor agos â phosib i'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau). Mae'r aelod-wladwriaethau yn rheoli'r cytundebau ac ni all yr UE drosglwyddo hawliau ychwanegol o'r aelod-wladwriaethau i'r UE.

Fframwaith sefydliadol

Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol:

Sefydliadau gwleidyddol yw'r Senedd, y Cyngor a'r Comisiwn, sy'n dal grym gweithredol a deddfwriaethol yr Undeb. Mae'r Senedd yn cynrychioli'r dinasyddion, mae'r Cyngor yn cynrychioli eu llywodraethau, ac mae'r Comisiwn yn cynrychioli'r budd Ewropeaidd cyffredinol. Y Comisiwn yn unig sydd â'r hawl i ddrafftio deddfwriaeth. Cyflwynir deddfwriaeth ddrafft i'r Senedd a'r Cyngor, y mae rhaid iddynt ei chymeradwyo, er bod y weithdrefn benodol yn dibynnu ar bwnc y ddeddfwriaeth dan sylw. Unwaith wedi'i chymeradwyo ac wedi'i llofnodi, mae'r ddeddfwriaeth yn dod i rym. Dyletswydd y Comisiwn yw sicrhau y cydymffurfir â chyfraith yr Undeb.

Deg gwlad mwyaf eu heconomi - gan gyfrif yr Undeb Ewropeaidd fel un wlad; mwyaf o ran Cynnyrch mewnwladol crynswth yn 2011.[8]

Mae hefyd nifer o gyrff ac asiantaethau pwysig eraill nad ydynt yn sefydliadau swyddogol. Mae'r rhain yn cynnwys dau bwyllgor ymgynghorol, sef Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol, sy'n rhoi eu cyngor ynghylch materion rhanbarthol, economaidd a chymdeithasol.

Mae cyrff ac asiantaethau eraill yn cynnwys:

Bydd Cytundeb Lisbon yn gwneud nifer o newidiadau i fframwaith sefydliadol yr Undeb. Daw'r Cyngor Ewropeaidd a Banc Canolog Ewrop yn sefydliadau llawn, a chaiff Llys y Gwrandawiad Cyntaf ei ailenwi yn "Lys Cyffredinol".

Polisïau

Dechreuodd yr UE fel grŵp o wledydd yn cydweithredu'n economaidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Datblygodd wedyn i gynnwys cydweithredu gwleidyddiol. Fel hynny, roedd pŵer gwleidyddiol yn symud o'r aelod-wladwriaethau i sefydliadau'r UE. Beth bynnag, mae hynny'n cael ei cydbwyso gan y ffaith bod gan nifer o aelod-wladwriaethau draddodiad o lywodraeth gryf yn eu rhanbarthau. Mae pwysigrwydd rhanbarthau Ewrop yn cynyddu a sefydlwyd Pwyllgor y Rhanbarthau trwy Gytundeb Maastricht.

Statws yr iaith Gymraeg

Ers blynyddoedd mae unigolion a grwpiau wedi bod yn pwyso ar yr Undeb a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i godi statws swyddogol yr iaith Gymraeg o fewn yr Undeb.

Ar 20 Tachwedd 2008, gwnaeth Alun Ffred Jones hanes drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfod o Gyngor Gweinidogion Undeb Ewrop am y tro cyntaf erioed. Siaradodd fel Gweinidog dros Dreftadaeth Cymru yn rhan o ddirprwyaeth y DU i'r cyfarfod. Cyfieithwyd araith y gweinidog mewn canlyniad i gytundeb rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ac Undeb Ewrop a gytunwyd yng Ngorffennaf 2008.[9]

Gweler hefyd

Nodiadau

Cyfeiriadau

Ffynonellau eraill

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Sefydliadau

Cyrff eraill

Cytundebau, strwythur a hanes yr Undeb Ewropeaidd
1951/19521957/19581965/19671992/19931997/19992001/20032007/2009 (?)
U N D E B   E W R O P E A I D D   ( U E )
Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur (CEGD)
Cymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE)Cymuned Ewropeaidd (CE)
Cymuned Ewropeaidd Ynni Atomig (Euratom)
Tair Cymuned Ewropeaidd: CEGD, CEE ac EuratomCyfiawnder a Materion Cartref 
Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol
mewn Materion Trosedd
Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin (PTDC)
Cytundeb ParisCytundebau RhufainCytundeb CyfunoCytundeb MaastrichtCytundeb AmsterdamCytundeb NiceCytundeb Lisbon

"Tri philer yr Undeb Ewropeaidd"
(y Cymunedau Ewropeaidd, y PTDC, a Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol)