Gwennol ddu

rhywogaeth o adar
Gwennol ddu
Apus apus

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Aves
Urdd:Apodiformes
Teulu:Apodidae
Genws:Apus[*]
Rhywogaeth:Apus apus
Enw deuenwol
Apus apus
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gwennol ddu (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: gwenoliaid duon) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Apus apus; yr enw Saesneg arno yw Eurasian swift. Mae'n perthyn i deulu'r Coblynnod (Lladin: Apodidae) sydd yn urdd y Apodiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. apus, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Heblaw wrth y nyth, nid yw'r Wennol Ddu byth yn glanio o'i bodd; yn hytrach mae'n treulio ei holl fywyd yn hedfan. Mauersegler neu "mur-gydiwr" yw'r gair Almaeneg amdani, sy'n adlewyrchu'r ffaith ei bod yn aml yn cydio mewn boncyff coeden gyda'i thraed pitw.

Aderyn mudol ydyw, yn nythu yn Ewrop a rhan helaeth o Asia, ac yn gaeafu yn rhan ddeheuol Affrica. Defnyddir adeiladau ar gyfer nythu fel rheol. Mae'n aderyn gweddol gyffredin mewn cynefinoedd addas yng Nghymru.

Enwau eraill

Ceir nifer o hen enwau arni, llawer ohonynt yn ymwneud â chyfriniaeth neu grefydd: coblyn, gwrach yr ellyll, asgell hir, aderyn yr eglwys, aderyn du'r llan, y biwita (the bewitched one), y folwen, sgilpen, marthin du (black bird of St. Martin), y wennol ddu fawr, gwennol y dŵr (ardal Llandysul), gwennol fuan.[3]

Apus apus

Teulu

Mae'r gwennol ddu yn perthyn i deulu'r Coblynnod (Lladin: Apodidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaethenw tacsondelwedd
Corgoblyn AwstraliaAerodramus terraereginae
Corgoblyn GermanAerodramus germani
Corgoblyn LoweAerodramus maximus
Corgoblyn MaÿrAerodramus orientalis
Corgoblyn Ynysoedd CookAerodramus sawtelli
Corgoblyn mynyddAerodramus hirundinaceus
Corgoblyn tinwynAerodramus spodiopygius
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Safonwyd yr enw Gwennol ddu gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.