Homo sapiens idaltu
Isrywogaeth darfodedig o Homo sapiens yw Homo sapiens idaltu a fu byw 160,000 o flynyddoedd yn ôl yn Affrica.[1] Daw'r gair o'r iaith Saho-Afar ac sy'n golygu'r "hynaf" neu "gyntaf anedig".[1]
Homo sapiens idaltu Amrediad amser: Pleistosen (Hen Oes y Cerrig Isaf), 0.16 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
Amgueddfa Genedlaethol Addis Ababa | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Phylum: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates |
Is-urdd: | Haplorhini |
Teulu: | Hominidae |
Genus: | Homo |
Rhywogaeth: | H. sapiens |
Isrywogaeth: | H. s. idaltu White et al., 2003 |
Enw Trinomial | |
Homo sapiens idaltu White et al., 2003 |
Darganfyddiad
Darganfyddwyd gweddillion corff H. s. idaltu yn Herto Bouri ger safle archaeolegol Awash Ganol yn Nhriongl Afar yn Ethiopia yn 1997 gan Tim D. White, ac a wnaed yn gyhoeddus yn 2003.[1] Saif Herto Bouri mewn rhan o Ethiopia sydd dan lwch folcanig. Dyddiwyd y gweddilion hyn rhwng 154,000 a 160,000 o flynyddoedd yn ôl. Cafwyd hyd i dri penglog mewn cyflwr da ac mae'r gorau ohonynt yn perthyn i ddyn ifanc (BOU-VP-16/1) gyda maint ymenyddol o 1450 cm3 (88 modf ciwb). Oedolyn ifanc oedd bia'r ail benglog ac mae'r trydydd yn perthyn i blentyn chwech oed.[1]
Morffoleg
Mae morffoleg y ffosiliau hyn yn wahanol i ffurfiau o H. sapiens, a ddaeth wedyn ee esgyrn y Cro-Magnon a ddarganfuwyd yn Ewrop.[1] Er gwaethaf rhai nodweddion hynafol iawn, credir fod y penglogau hyn yn cynrychioli hynafiaid uniongyrchol dyn modern, sef Homo sapiens sapiens a ddatblygodd ychydig wedi'r cyfnod hwn - yn ôl y cysyniad mwyaf poblogaidd am darddiad dyn, sef "Allan-o-Affrica".
Yn 2005 cyhoeddwyd canlyniad profion dyddio potasiwm-argon ar greigiau folcanig safle arall yn Ethiopia, sef Omo, sy'n 195,000 o flynyddoedd yn ôl ac felly'n hŷn na ffosiliau idaltu.[2]