Jâd
Carreg led-werthfawr gan amlaf o liw gwyrdd neu wyn yw jâd[1][2] neu jad.[3] Defnyddir i wneud gemwaith, celfyddyd, ac yn hanesyddol blaenau arfau.[3]
Math | craig fetamorffig, glain |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y ddau fath
Ceir dau fwyn a elwir yn jâd: jadit[4] ac arenfaen.[1] Mae'r ddau fwyn yn wahanol yn nhermau eu cyfansoddiad cemegol a strwythur grisialaidd, ond mae ganddynt grisialau cydgloëdig sy'n ffurfio cydgasgliad cywasgedig. Gall jadit ac arenfaen ill dau fod yn wyn neu'n ddi-liw, ond gallent droi'n goch, gwyrdd, fioled neu'n llwyd o ganlyniad i bresenoldeb haearn, cromiwm, neu fanganîs.[5]
Jadit
Silicad o sodiwm ac alwminiwm yw jadit, sydd yn byrocsen ac yn aml yn dryleu. Y math mwyaf werthfawr o jadit yw'r garreg o liw gwyrdd sy'n debyg i emrallt, ac o ganlyniad gelwir y lliw yn wyrdd jâd.[5][6]
Arenfaen
Silicad o galsiwm a magnesiwm yw arenfaen sy'n perthyn i grŵp yr amffibolau, ac yn dremolit.[5] Mae'n loyw yn debyg i gwyr.[6]
Celfyddyd, arfau ac addurniadau
Tsieina
Ers talwm ystyrir jâd yn bur ac yn annistrywiadwy yn Tsieina, a rhoddwyd i'r garreg hon gwerth yn debyg i'r hynny a roddir i aur yn y Gorllewin.[7] Defnyddiodd y Tsieineaid arenfaen i greu gwrthrychau defodol ers y trydydd filflwyddiant CC. Yn yr Hen Tsieina credir bod jâd yn gallu cadw celanedd, a chanfuwyd y meirw mewn gwisgoedd jâd mewn beddau o'r 2il ganrif CC.[6]
Seland Newydd
Hyd at ddyfodiad yr Ewropeaid i Seland Newydd yn y 18g, roedd y Maorïaid yn anghyfarwydd â metelau a defnyddiant cerrig i wneud arfau ac offer. O'r rhain, arenfaen oedd eu hoff garreg, a ddefnyddiwyd i wneud bwyelli, cyllyll, geingion, a neddyfau. Gwnaed hefyd cleddyfau byrion y penaethiaid Maorïaidd o arenfaen, ac roedd rhain yn symbolau o awdurdod yn ogystal ag arfau.[5]