Jimmy Wales

Entrepreneur Americanaidd yw Jimmy Donal "Jimbo" Wales (/ˈɪmi ˈdnəl ˈwlz/; ganwyd 7 Awst 1966)[1]. Fe yw cyd-sylfaenydd a hyrwyddwyr y gwyddoniadur dielw arlein Wikipedia a'r cwmni lletya gwe di-elw Wikia.[2][3]

Jimmy Wales
FfugenwJimbo Edit this on Wikidata
LlaisJimmy Wales voice.ogg Edit this on Wikidata
GanwydJimmy Donal Wales Edit this on Wikidata
7 Awst 1966 Edit this on Wikidata
Huntsville, Alabama Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethperson busnes, blogiwr, entrepreneur, wicimediwr, gwyddonydd cyfrifiadurol, ymchwilydd, areithydd, masnachwr Edit this on Wikidata
SwyddChair of the Wikimedia Foundation Board of Trustees, non-executive director, Founder's seat Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Bomis
  • Fandom Edit this on Wikidata
Adnabyddus amWikipedia Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAyn Rand, Friedrich Hayek Edit this on Wikidata
PriodKate Garvey, Christine Rohan, Pamela Green Edit this on Wikidata
Gwobr/auQuadriga, Gwobr EFF, Gottlieb Duttweiler Prize, UNESCO Niels Bohr Medal, Gwobr Hall of Fame y Rhyngrwyd, Young Global Leaders, Leonardo Award, Gwobr Dan David, Medal y Llywydd, prix Giles, Nokia Foundation Recognition Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://jimmywales.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd Wales yn Huntsville, Alabama, lle mynychodd Randolph School, ysgol baratoi i brifysgol.[4] Yn ddiweddarach fe enillodd graddau baglor a meistr mewn cyllid o Brifysgol Auburn ac yna Prifysgol Alabama, yn ôl eu trefn.

Tra yn ysgol raddedigion, fe ddysgodd mewn dwy brifysgol, ond gadawodd cyn cwblhau PhD i gymryd swydd mewn cyllid a gweithiodd yn ddiweddarach fel cyfarwyddwr ymchwil mewn cwmni cyllid yn Chicago. Yn 1996, fe wnaeth e a dau bartner ffurfio Bomis, porth gwe ar gyfer dynion, yn cynnwys adloniant a deunydd i oedolion. Fe fyddai'r cwmni yn ffynhonnell arian cychwynnol ar gyfer y gwyddoniadur am ddim Nupedia (2000–2003) a'i olynydd, Wikipedia.

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.