Johnny Depp
Actor, cynhyrchydd ffilmiau a cherddor Americanaidd yw John Christopher "Johnny" Depp II[1] (ganwyd 9 Mehefin 1963). Mae ef wedi ennill Gwobr Golden Globe a gwobr y Screen Actors Guild am yr Actor Gorau. Daeth Depp i enwogrwydd yn y gyfres deledu o'r 1980au 21 Jump Street, gan ddod yn arwr i nifer o arddegwyr. Fodd bynnag, yn fuan wedi hyn dechreuodd Depp actio rhannau llawer mwy heriol fel y prif gymeriad yn Edward Scissorhands (1990). Yn ddiweddarach chwaraeoedd rannau mewn ffilmiau hynod lwyddiannus fel Sleepy Hollow (1999), Charlie and the Chocolate Factory (2005), Alice in Wonderland (2010), Rango (2011) a'r gyfres o ffilmiau Pirates of the Caribbean (2003–presennol). Mae ef wedi cydweithio gyda'r cyfarwyddwr Tim Burton mewn wyth o ffilmiau; yr un mwyaf diweddar yw Dark Shadows (2012).
Johnny Depp | |
---|---|
Ganwyd | John Christopher Depp II 9 Mehefin 1963 Owensboro, Unol Daleithiau America |
Man preswyl | Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, actor teledu, actor ffilm, actor llais, perchennog clwb nos, gitarydd, actor, cerddor |
Adnabyddus am | Pirates of the Caribbean |
Arddull | cerddoriaeth roc, ffilm ffantasi, ffilm antur, comedi ramantus |
Taldra | 178 centimetr |
Tad | John Christopher Depp |
Mam | Betty Sue Wells |
Priod | Lori Allison, Amber Heard |
Partner | Sherilyn Fenn, Winona Ryder, Jennifer Grey, Kate Moss, Vanessa Paradis, Tally Chanel, Polina Glen |
Plant | Jack Depp, Lily-Rose Depp |
Gwobr/au | Gwobr People's Choice, Golden Globes, Gwobr Deledu MTV i'r Dyn Cas Gorau, Gwobr Ffilmiau MTV ar gyfer Perfformiad Gorau, Gwobrau Ffilmiau MTV ar gyfer Perfformiad Gwrywaidd Gorau, 'Disney Legends', seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Donostia, Medal of the City of Paris |
llofnod | |
Derbyniodd Depp gydnabyddiaeth am ei bortread o bobl fel Ed Wood yn Ed Wood, Joseph D. Pistone yn Donnie Brasco, Hunter S. Thompson yn Fear and Loathing in Las Vegas, George Jung yn Blow, a'r lleidr banc John Dillinger yn ffilm Michael Mann Public Enemies. Mae'r ffilmiau mae Depp wedi serennu ynddynt wedi gwneud dros $3.1 biliwn yn swyddfa docynnau'r Unmol Daleithiau a thros $7.6 biliwn yn fyd eang.[2] Cafodd ei enwebu am nifer o'r proif wobrau ar sawl achlysur, gan ennill Golden Globe am yr Actor Gorau am ei ran yn Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street. Cafodd ei enwi hefyd gan y Guiness Book of World Records yn 2012 fel yr acotr uchaf ei dâl, gyda $75 miliwn.[3]
Ei fywyd cynnar
1960au–1970au
Ganwyd Depp yn Owensboro, Kentucky,[4] a'i fagu yn Florida. Ef oedd yr ifancaf o bedwar o blant Betty Sue Palmer (née Wells), gweinyddes, a John Christopher Depp, peiriannydd sifil.[5] Ysgarodd y ddau pan oedd Johnny yn 15 oed.[6] Mewn cyfweliad yn 2002, dywedodd Depp ei fod yn credu ei fod o dras yr Americanwyr Brodorol;[7] yn 2011, manylodd trwy ddweud, "I guess I have some Native American [in me] somewhere down the line. My great-grandmother was quite a bit of Native American, she grew up Cherokee or maybe Creek Indian. Makes sense in terms of coming from Kentucky, which is rife with Cherokee and Creek."[8]Symudodd ei deulu'n rheolaidd yn ystod plentyndod Depp, ac roedd ef a'i siblingiaid wedi byw mewn dros 20 o leoliadau gwahanol, cyn ymgartrefu yn Miramar,[9] Florida, yn 1970. Ym 1978, ysgarodd rhieni Depp.[9] Fel ei hail ŵr, priododd ei fam, Robert Palmer (bu farw 2000), gŵr a ddisgrifiwyd gan Depp fel "ysbrydoliaeth i mi".[10] Aeth Depp tryw gyfnod o hunan-niweidio pan oedd yn ifanc, o ganlyniad i'r straen o ymdopi â phroblemau teuluol, ac oherwydd hyn mae ganddo nifer o greithiau. Mewn cyfweliad yn 1993, myfyriodd ar ei hunan-niweidio gan ddweud "Mae fy nghorff yn rhyw fath o gyfnodolyn. Mae'n debyg i'r hyn byddai morwyr arfer gwneud, lle mae pob tatŵ yn golygu rhywbeth, amser penodol o'ch bywyd pan rydych yn gwneud eich marc ar eich hunan, p'un ai os ydych yn ei wneud gyda chyllell neu artist tatŵ proffesiynol".[11]
1980au
Pan dderbyniodd Depp gitâr wrth ei fam pan oedd yn 12, dechreuodd Depp chwarae mewn nifer o fandiau garej.[9] Flwyddyn ar ôl ysgariad ei rieni, gadawodd Depp yr ysgol er mwyn dod yn gerddor roc.[9] Ceisiodd ddychwelyd i'r ysgol bythefnos yn ddiweddarach, ond dywedodd Pennaeth yr ysgol wrtho i ddilyn ei freuddwyd o fod yn gerddor.[9] Chwaraeodd gyda "The Kids", band a gafodd rhyw faint o lwyddiant lleol. Symudodd "The Kids" i Los Angeles gyda'r nod o gael cytundeb recordio. Newidion nhw eu henw i "Six Gun Method", ond chwalodd y grŵp cyn arwyddo cytundeb recordio. Wedi hyn, perfformiodd Depp gyda'r band Rock City Angels[12] a chyd-ysgrifennodd eu cân "Mary", a ymddangosodd ar albwm cyntaf Rock City Angels ar gyfer Geffen Records o'r enw Young Man's Blues.
Bywyd personol
Mae'n ef wedi cael perthynas gyda nifer o fenywod enwog, yn cynnwys y model Kate Moss a'r gantores Ffrengig Vanessa Paradis.
Ffilmiau
Blwyddyn | Ffilm | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1983 | The Outsiders | cameo yn yr olygfa "rumble" | |
1984 | A Nightmare on Elm Street | Glen Lantz | |
1985 | Private Resort | Jack | |
Slow Burn | Donnie Fleischer | ||
1986 | Platoon | Private Gator Lerner | |
1990 | Edward Scissorhands | Edward Scissorhands | |
Cry-Baby | Wade "Cry-Baby" Walker | ||
1987-1991 | 21 Jump Street | Tom Hanson | Cyfres deledu |
1991 | Freddy's Dead: The Final Nightmare | Arddegwr ar y teledu | |
1993 | What's Eating Gilbert Grape | Gilbert Grape | |
Benny & Joon | Sam | ||
Arizona Dream | Axel | ||
1994 | Ed Wood | Ed Wood | |
1995 | Nick of Time | Gene Watson | |
Dead Man | William Blake | ||
Don Juan DeMarco | Don Juan | ||
1997 | Donnie Brasco | Donnie Brasco/Joseph D. 'Joe' Pistone | |
The Brave | Raphael | Ysgrifennwy a chyfarwyddwr hefyd | |
1998 | Fear and Loathing in Las Vegas | Raoul Duke | |
L.A. Without A Map | Ef ei hun/William Black ar boster Dead Man | Cameo | |
1999 | Sleepy Hollow | Cwnstabl Ichabod Crane | |
The Astronaut's Wife | Commander Spencer Armacost | ||
The Ninth Gate | Dean Corso | ||
2000 | Chocolat | Roux | |
Before Night Falls | Lt. Victor + Bon Bon | ||
2001 | From Hell | Inspector Frederick Abberline | |
The Man Who Cried | Cesar | (Rhyddhad cyfyngedig) | |
Blow | George Jung | ||
2002 | Lost in La Mancha | Ef ei hun (Johnny Depp) | |
2003 | Once Upon a Time in Mexico | Sheldon Jeffrey Sands | |
Pirates of the Caribbean: The Curse of the Black Pearl | Captain Jack Sparrow | Nomineiddwyd - Gwobrau'r Academi, Actor Gorau | |
2004 | Happily Ever After | L'inconnu | |
Finding Neverland | Sir James Matthew Barrie | Nomineiddwyd - Gwobrau'r Academi, Actor Gorau | |
Secret Window | Mort Rainey | ||
2005 | The Libertine | John Wilmot, 2nd Earl of Rochester | |
Charlie and the Chocolate Factory | Willy Wonka | ||
Corpse Bride | Victor Van Dort | ||
2006 | Pirates of the Caribbean: Dead Man's Chest | Captain Jack Sparrow | |
2007 | Pirates of the Caribbean: At World's End | Captain Jack Sparrow | |
Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street | Sweeney Todd | Gwobrau Golden Globe, Actor Gorau mewn Ffilm Gerdd neu Gomedi Nomineiddwyd - Gwobrau'r Academi, Actor Gorau | |
2009 | The Imaginarium of Doctor Parnassus | Tony | ôl gynhyrchu; cymryd rôl gwreiddiol Heath Ledger |
Public Enemies | John Dillinger | ffilmio | |
Shantaram | Lindsay | cyn-gynhyrchu; hefyd Cyd-gyfarwyddwr | |
The Rum Diary | Paul Kemp | cyn-gynhyrchu; hefyd Cyfarwyddwr Gweithredol |