Liwcemia
Grŵp o afiechydon cansar y gwaed ydy liwcemia (Groeg: λευκός leukemia, (neu lwcimia) sef "gwyn" fel y gair 'lleu'ad neu 'go-leu' a αίμα yn golygu "gwaed" h.y. "gwaed gwyn"). Mae'n cychwyn ym mêr yr esgyrn, lle mae'r gwaed yn cael ei gynhyrchu. Mewn claf sy'n dioddef o lwcimia, cynhyrchir llawer mwy o gelloed gwyn (neu leukocytes) nag arfer[1]. Nid yw'r rhain wedi datblygu'n llawn, a gelwir nhw'n 'blasts'.[2] Mae'r term "liwcemia" yn derm eang am sawl math o gansar y gwaed. Mae'r symtomau'n cynnwys cleisio'r corff, blinder a lleihad yn ynni'r claf, a'r risg o ddal heintiau.[2] Mae'r symtomau hyn yn digwydd oherwydd gormod o gelloedd gwyn, sydd wedi cymryd drosodd oddi wrth y celloedd gwaed eraill e.e. y celloedd coch sy'n cludo ocsigen a'r platennau, sy'n atal gwaed rhag llifo allan o'r corff.[2] Gwneir diagnosis fel arfer drwy brawf gwaed a biopsi lle tynnir ychydig o fêr o'r corff a'i astudio drwy feicrosgrop.[2]
Delwedd:Symptoms of leukemia.png, Symptoms of leukemia-hy.svg | |
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | hematologic cancer, canser mêr yr esgyrn, clefyd |
Arbenigedd meddygol | Hematoleg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Triniaeth
Hyd at 2015, ceisiwyd dileu'r celloedd gwyn drwy cimotherapi a radiotherapi, ond sgil effaith hyn yw diffyg gallu'r driniaeth i wahaniaethu rhwng y naill gell a'r llall, felly lledir pob cell newydd gan gynnwys y rhai da. Sgileffeithiau corfforol y triniaethau hyn yw: colli blew'r corff, colli celloedd o fewn y geg, y coluddion a mannau eraill, colli ynni a marwolaeth.[3] Ymhlith y ffactorau sy'n cynyddu'r risg o gael lwcimia mae: ysmygu, ymbelydredd, cemegolion fe Bensen, firws (fel y T-lymphotropic) a Syndrom Down.[3][4]
Cafwyd llawer o ymchwil i therapi genynnol ers y 2010au gan gynnwys y defnydd o deilwrio genynnau, ac adnabod y genynnau o fewn had gelloedd, sydd weithiau'n achosi newid yn y DNA sydd yn ei dro'n achosi lwcimia.
Achos lwcimia
Mae rhai o'r rhesymau pam fod lwcimia'n dechrau o fewn y corff yn wybyddus; gall y rhesymau fod naill ai'n rhai'n ymwneud â'r amgylchedd neu'n rhai genetig. Yn 2012, cafodd 352,000 o bobl ledled y byd y clefyd hwn, gan achosi 265,000 o farwolaethau.[5] Dyma'r math mwyaf niferus o gansar mewn plant. Mae tri chwarter yr achosion hyn mewn plant o'r fath acute lymphoblastic.[4] O fewn yr oedolyn, AML a CLL yw'r mwyaf niferus.[4] Mae lwcimia'n digwydd llawer amlach mewn gwledydd sydd wedi datblygu.[5] Nid oes wnelo deiet ddim i'w wneud ag achosi lwcimia; i'r gwrthwyneb, ceir peth tystiolaeth fod bwyta mwy o lysiau nag arfer yn gymorth i atal lwcimia.[6]
Dosbarthiad
Yn glinigol ac yn batholegol, dosberthir y gwahanol fathau o gansar i ddau grŵp, gwyllt a chronig:
- liwcemia gwyllt ('acute leukemia'): yr hyn sy'n nodweddiol o'r math hwn yw'r cynnydd aruthrol o un math o gelloedd gwaed gwyn (e.e. lymffoblasts) sydd yn eu tro yn cymryd lle'r mathau (iach) eraill megis y celloedd coch neu'r platennau. Gall ddigwydd mewn babis, plant ac oedolion ifanc. Mae angen triniaeth cynnar a sydyn i drin liwcemia gwyllt gan fod y celloedd gwyllt yn gor-dyfu mor sydyn gan ymuno â llif y gwaed a lledaenu drwy organau'r corff. Fe allent, hyd yn oed, deithio i fyny'r asgwrn cefn ac i'r ymennydd.
- liwcemia cronig: mae'r math hwn yn gweithio'n ddistaw dros gyfnod o fisoedd neu flynyddoedd i ddatblygu. Unwaith eto, mae'r celloedd gwyn abnormal yn cael eu gor-gynhyrchu. Mewn pobol hŷn, fel arfer, y digwydd y ffurf cronig o'r afiechyd. Does dim cymaint o frys i drin y math hwn (yn wahanol i liwcemia gwyllt) er mwyn monitro'r claf a theilwrio'r driniaeth ar gyfer y claf.
Yr ail ddull o ddosbarthu liwcemia ydyw drwy edrych ar y celloedd eu hunain: sut fath o gelloedd ydy'r rhai drwg? Ceir dau fath o gelloedd gwyn drwg: liwcemia lymffoblastig (lymffoblastig neu lymffocytic) a liwcemia myeloid neu myelogenous.
- mewn liwcemia lymffoblastig (lymffoblastig neu lymffocytic) mae'r addasu cancraidd yn digwydd o fewn y mêr sydd fel arfer yn creu lymffosites.
- mewn liwcemia myeloid neu myelogenous, mae'r addasu cancraidd yn digwydd mewn math o gelloedd mêr sydd fel arfer yn creu celloedd coch, gwyn neu blatennau.
Drwy uno'r ddwy ffordd uchod o ddosbarthu fe ddown at bedwar categori — acute lymphoblastic leukemia (ALL), acute myeloid leukemia (AML), chronic lymphocytic leukemia (CLL) a chronic myeloid leukemia (CML) — a mathau eraill llai niferus.[4][5]