Maesyfed (pentref)

pentref yng Nghymru

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Maesyfed[1][2] (Saesneg: New Radnor). Saif ne'r sir, yn agos i'r ffîn a Lloegr, ger cyffordd yr A44 a'r B4372, i'r dwyrain o dref Llandrindod.

Maesyfed
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMaesyfed Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.24°N 3.16°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO212609 Edit this on Wikidata
Cod postLD8 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map
Am leoedd eraill o'r enw "Maesyfed", gweler Maesyfed.

Ar un adeg, y pentref oedd canolfan arglwyddiaeth Maesyfed, a chynlluniwyd y dref fel bwrdeisdref. Daeth Gerallt Gymro yma gyda'r Archesgob Baldwin yn 1188. Wedi ffurfio Sir Faesyfed, Maesyfed oedd y brif dref hyd y 17g, pan ddaeth Llanandras yn brif dref yn ei lle.

Mae'r enw i'w ganfod mewn ysgrifen mor gynnar a 991 ar ffurf 'maes hefed'. Ystyr 'maes' ydy 'cae' neu dir agored ac enw person yw 'Hyfaidd'. Arferid galw'r dyffryn lle saif Maesyfed yn Fro Hyfeid.

Ceir castell yma, a adeiladwyd gan William Fitz Osbern Iarll Henffordd tan iddo farw yn 1071 ac yna Philip de Breos tua 1086. Newidiodd ddwylo sawl gwaith cyn i Owain Glyndŵr ei ddinistrio. Yn 1196 bu byddin Rhys ap Gruffudd (neu'r Arglwydd Rhys) yn fuddugol ym Mrwydr Maesyfed ar lawr y dyffryn pan laddwyd deugain o farchogion Roger Mortimer o Wigmore a Hugh de Say.

Mae'r gymuned yn cynnwys rhan sylweddol o Fforest Clud, gan gynnwys y pwynt uchaf, Rhos Fawr (660 medr). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 410.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Maesyfed (pentref) (pob oed) (409)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Maesyfed (pentref)) (26)
  
6.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Maesyfed (pentref)) (121)
  
29.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Maesyfed (pentref)) (80)
  
42.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau